Fyddai hi ddim yn well dweud 'gwybodaeth am iechyd cyhoeddus'? Fe all mai rhywun sy'n ymorchestu (neu'n ymdrabaeddu) yn ddiangen mewn termau Saesneg sy yma ... Berwyn 2011/1/12 Mary Jones <[log in to unmask]> > Mae’cudd-wybodaeth’ yn gyfyngedig i ‘intelligence’ yng ngwaith heddluoedd > etc, gan ei fod yn waith yn y cudd, wrth reswm. Yn bersonol rwy’n credu bod > ‘deallusrwydd yn gynnig da,. A fydda’i well dweud ‘deallusrwydd am iechyd > cyhoeddus’ i’w wneud yn haws ei ddeall ar y darlleniad cynta? > > Mary > > > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Rhian Huws > *Sent:* 12 January 2011 11:03 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* intelligence > > > > Bore da > > Tybed all rywun helpu? Dwi wrthi’n prawfddarllen darn o waith. > > > > Maes iechyd yw’r cyd-destun, ac yn benodol dadansoddi data a thystiolaeth > a’i droi’n ‘intelligence’ – h.y. cynhyrchu rhywbeth sy’n dangos beth yw > arwyddocad y data a’r dystiolaeth i iechyd. > > > > Y pennawd yw:- Transforming data and evidence into public health > intelligence a’r cyfieithiad yw *‘Trawsnewid data a thystiolaeth yn > ddeallusrwydd iechyd cyhoeddus’* > > > > Mae ‘cudd-wybodaeth’ yn swnio braidd yn amhriodol yn y cyd-destun hwn, ac > falle dyna pam y denfyddiodd y cyfieithydd ‘deallusrwydd’, ond mae’n fy > nharo i braidd yn chwithig. > > > > Yn ddiolchgar am unrhyw gynigion > > > > Cofion > > > > Rhian > > > > Noder y manylion cyswllt newydd isod. > > Please note new contact details below. > > > > Rhian Huws > > *Cwmni Cyfieithu Canna Translation Services* > > 47 Mayfield Avenue, Parc Victoria Park, Caerdydd/Cardiff, CF5 1AL > > *E-bost/E-mail*: [log in to unmask] / [log in to unmask] > > *Ffôn/Tel*: 02920 554567 / 0781 1107492 > > www.cwmnicanna.co.uk / www.cannatranslations.co.uk > > >