Mae'r cyd-destun hwn yn awgrymu "gwybodaeth": yn wir, wela'i ddim o'i le ar ddefnyddio "information" yn y Saesneg (ond mae "intelliegence" yn swnio'n grandiach, tydi.......) --- On Wed, 12/1/11, Rhian Huws <[log in to unmask]> wrote: From: Rhian Huws <[log in to unmask]> Subject: intelligence To: [log in to unmask] Date: Wednesday, 12 January, 2011, 11:03 Bore da Tybed all rywun helpu? Dwi wrthi’n prawfddarllen darn o waith. Maes iechyd yw’r cyd-destun, ac yn benodol dadansoddi data a thystiolaeth a’i droi’n ‘intelligence’ – h.y. cynhyrchu rhywbeth sy’n dangos beth yw arwyddocad y data a’r dystiolaeth i iechyd. Y pennawd yw:- Transforming data and evidence into public health intelligence a’r cyfieithiad yw ‘Trawsnewid data a thystiolaeth yn ddeallusrwydd iechyd cyhoeddus’ Mae ‘cudd-wybodaeth’ yn swnio braidd yn amhriodol yn y cyd-destun hwn, ac falle dyna pam y denfyddiodd y cyfieithydd ‘deallusrwydd’, ond mae’n fy nharo i braidd yn chwithig. Yn ddiolchgar am unrhyw gynigion Cofion Rhian Noder y manylion cyswllt newydd isod. Please note new contact details below. Rhian Huws Cwmni Cyfieithu Canna Translation Services 47 Mayfield Avenue, Parc Victoria Park, Caerdydd/Cardiff, CF5 1AL E-bost/E-mail: [log in to unmask] / [log in to unmask] Ffôn/Tel: 02920 554567 / 0781 1107492 www.cwmnicanna.co.uk / www.cannatranslations.co.uk