Bore da
Tybed all rywun helpu? Dwi wrthi’n prawfddarllen darn o waith.
Maes iechyd yw’r cyd-destun, ac yn benodol dadansoddi data a thystiolaeth a’i droi’n ‘intelligence’ – h.y. cynhyrchu rhywbeth sy’n dangos beth yw arwyddocad y data a’r dystiolaeth i iechyd.
Y pennawd yw:- Transforming data and evidence into public health intelligence a’r cyfieithiad yw ‘Trawsnewid data a thystiolaeth yn ddeallusrwydd iechyd cyhoeddus’
Mae ‘cudd-wybodaeth’ yn swnio braidd yn amhriodol yn y cyd-destun hwn, ac falle dyna pam y denfyddiodd y cyfieithydd ‘deallusrwydd’, ond mae’n fy nharo i braidd yn chwithig.
Yn ddiolchgar am unrhyw gynigion
Cofion
Rhian
Noder y manylion cyswllt newydd isod.
Please note new contact details below.
Rhian Huws
Cwmni Cyfieithu Canna Translation Services
47 Mayfield Avenue, Parc Victoria Park, Caerdydd/Cardiff, CF5 1AL
E-bost/E-mail: [log in to unmask] / [log in to unmask]
Ffôn/Tel: 02920 554567 / 0781 1107492
www.cwmnicanna.co.uk / www.cannatranslations.co.uk