Wedi penderfynu rhoi'r ddau - y Cyfieithiad Cymraeg o ran cwrteisi a'r Saesneg mewn cromfacha fel bod modd cael hyd i'r cyfeiriad. Llawlyfr i aelodau Parciau Cenedlaethol ydi hwn - felly gwybodaeth yn bennaf yn hytrach na chyfarwyddyd i ufuddhau iddo. Go brin bod trigolion Norfolk a Suffolk yn mynd i ddarllen y fersiwn Gymraeg beth bynnag, ddyliwn. A dim ond cyfeiriada ydi'r rhain beth bynnag - rhaid iddyn nhw fynd i chwilio am y deddfau eu hunain. O ran peidio a chyfieithu dyfyniadau nad ydyn nhw'n bod yn Gymraeg, dwi wedi anufuddhau - fel arall mi fasa'r ddogfen yn frith o Saesneg, ac yn aml iawn nid talpia mawr braf ydyn nhw ond pytia bach yn rhan o frawddeg. Gobeithio mod i wedi dewis y llwybr iawn - y llwybr cul rhwng cywirdeb gwleidyddol felltith a synnwyr cyffredin. Diolch am eich cymorth

Anna

2011/1/10 Saunders, Tim <[log in to unmask]>
Byddai'n dibynnu hefyd i ryw raddau ar statws a phwrpas y ddogfen sydd i'w chyfieithu.
Weithiau mae teitlau deddfwriaeth San Steffan a Brwsel/Strasbwrg, a dyfyniadau ohoni, yn cael eu hymgorffori mewn Deddfwriaeth Gymreig. Dylid dilyn yr esiamplau hyn bob tro, yn sicr.
Os yw'r ddogfen yn cyfleu gwybodaeth heb fod yn gosod rhyw angenrheidrwydd neu ddyletswydd ar y darllenydd, weithiau fe fydd dadl o blaid cyfieithu. Fel arall, gwell cadw at y gwreiddiol, ar y cyfan.
 
Yn iach,
 
 
 
Tim
 
 
Tim Saunders
Cyfieithydd Translator
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough Council


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock
Sent: 10 January 2011 09:34Subject: ATB/RE: deddfau San Steffan

Mae gan Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth y Cynulliad bolisi neu ganllaw, yn yr Arddulliadur, tudalen 20:

 

“deddfwriaeth

 

Mae’n arferol rhoi teitl Cymraeg – teitl ‘cwrteisi’ – i ddeddfau ac offerynnau statudol nad ydynt ar gael yn Gymraeg. Dylai llawer o’r teitlau fod yn

TermCymru.

 

Os bydd rhan o destun deddf Senedd y Deyrnas Unedig neu Senedd Ewrop yn cael ei dyfynnu, ni fyddwn yn cyfieithu’r darn i’r Gymraeg gan nad oes statws cyfreithiol i gyfieithiad o ddeddf.

 

Yn achos is-ddeddfwriaeth y Cynulliad, edrychwch yn 'Welsh Legislation' ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (OPSI) http://www.opsi.gov.uk/legislation/wales/wales_legislation.htm

 

Os nad oes fersiwn Gymraeg ar gael, ni ddylech gyfieithu’r darn.

 

Rhowch y frawddeg hon, neu addasiad ohoni, uwchben rhannau o ddeddfwriaeth a adewir yn Saesneg (ee mewn atodiad i ddogfen) er mwyn esbonio i’r darllenydd pam nad ydynt yn Gymraeg:

Nid yw'r rhan hon o'r ddogfen ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw.”

 

 

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 08 Ionawr 2011 10:28
To: [log in to unmask]
Subject: deddfau San Steffan

 

Dwi'n cyfieithu dogfen faith i'r Parciau Cenedlaethol. Mae yna gryn dipyn o son am ddedfwriaeth San Steffan sydd heb fod yn berthnasol i Gymru. Y ddeddf sy'n rhoi cur pen i mi ar hyn o bryd ydi Norfolk and Suffolk Broads Act. Oes gynnon ni ganllawiau neu bolisi o ran cyfieithu deddfau felly? Deddf Norfolk and Suffolk Broads, Deddf Broads Norfolk a Suffolk, gadael yr holl beth yn Saesneg? Byddwn yn ddiolchgar am unrhyw gymorth.

Anna


This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer

 

Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol. 

I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad