Wedi penderfynu rhoi'r ddau - y Cyfieithiad Cymraeg o ran cwrteisi a'r Saesneg mewn cromfacha fel bod modd cael hyd i'r cyfeiriad. Llawlyfr i aelodau Parciau Cenedlaethol ydi hwn - felly gwybodaeth yn bennaf yn hytrach na chyfarwyddyd i ufuddhau iddo. Go brin bod trigolion Norfolk a Suffolk yn mynd i ddarllen y fersiwn Gymraeg beth bynnag, ddyliwn. A dim ond cyfeiriada ydi'r rhain beth bynnag - rhaid iddyn nhw fynd i chwilio am y deddfau eu hunain. O ran peidio a chyfieithu dyfyniadau nad ydyn nhw'n bod yn Gymraeg, dwi wedi anufuddhau - fel arall mi fasa'r ddogfen yn frith o Saesneg, ac yn aml iawn nid talpia mawr braf ydyn nhw ond pytia bach yn rhan o frawddeg. Gobeithio mod i wedi dewis y llwybr iawn - y llwybr cul rhwng cywirdeb gwleidyddol felltith a synnwyr cyffredin. Diolch am eich cymorth Anna 2011/1/10 Saunders, Tim <[log in to unmask]> > Byddai'n dibynnu hefyd i ryw raddau ar statws a phwrpas y ddogfen sydd > i'w chyfieithu. > Weithiau mae teitlau deddfwriaeth San Steffan a Brwsel/Strasbwrg, a > dyfyniadau ohoni, yn cael eu hymgorffori mewn Deddfwriaeth Gymreig. Dylid > dilyn yr esiamplau hyn bob tro, yn sicr. > Os yw'r ddogfen yn cyfleu gwybodaeth heb fod yn gosod rhyw angenrheidrwydd > neu ddyletswydd ar y darllenydd, weithiau fe fydd dadl o blaid cyfieithu. > Fel arall, gwell cadw at y gwreiddiol, ar y cyfan. > > Yn iach, > > > > *Tim* > ** > ** > *Tim Saunders* > *Cyfieithydd* Translator > *Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf* Rhondda Cynon Taf County > Borough Council > > ------------------------------ > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *David Bullock > *Sent:* 10 January 2011 09:34 > > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* ATB/RE: deddfau San Steffan > > Mae gan Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth y Cynulliad bolisi neu ganllaw, > yn yr Arddulliadur<http://new.wales.gov.uk/cisd/publications/translation/styleguidewelsh/styleguidew.pdf;jsessionid=X6VJNqRVfTbh2H9rY24JjVzh735kp6xCVQK6KTQj4dp0Jy4G9ymJ%212129002960?lang=cy>, > tudalen 20: > > > > *“deddfwriaeth* > > > > Mae’n arferol rhoi *teitl *Cymraeg – teitl ‘cwrteisi’ – i ddeddfau ac > offerynnau statudol nad ydynt ar gael yn Gymraeg. Dylai llawer o’r teitlau > fod yn > > TermCymru. > > > > Os bydd rhan o destun deddf Senedd y Deyrnas Unedig neu Senedd Ewrop yn > cael ei dyfynnu, ni fyddwn yn cyfieithu’r darn i’r Gymraeg gan nad oes > statws cyfreithiol i gyfieithiad o ddeddf. > > > > Yn achos is-ddeddfwriaeth y Cynulliad, edrychwch yn 'Welsh Legislation' ar > wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (OPSI) > http://www.opsi.gov.uk/legislation/wales/wales_legislation.htm > > > > Os nad oes fersiwn Gymraeg ar gael, ni ddylech gyfieithu’r darn. > > > > Rhowch y frawddeg hon, neu addasiad ohoni, uwchben rhannau o ddeddfwriaeth > a adewir yn Saesneg (ee mewn atodiad i ddogfen) er mwyn esbonio i’r > darllenydd pam nad ydynt yn Gymraeg: > > *Nid yw'r rhan hon o'r ddogfen ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o > ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw.”* > > * * > > > > > > > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran/On Behalf Of *anna > gruffydd > *Sent:* 08 Ionawr 2011 10:28 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* deddfau San Steffan > > > > Dwi'n cyfieithu dogfen faith i'r Parciau Cenedlaethol. Mae yna gryn dipyn o > son am ddedfwriaeth San Steffan sydd heb fod yn berthnasol i Gymru. Y ddeddf > sy'n rhoi cur pen i mi ar hyn o bryd ydi Norfolk and Suffolk Broads Act. Oes > gynnon ni ganllawiau neu bolisi o ran cyfieithu deddfau felly? Deddf Norfolk > and Suffolk Broads, Deddf Broads Norfolk a Suffolk, gadael yr holl beth yn > Saesneg? Byddwn yn ddiolchgar am unrhyw gymorth. > > Anna > > This transmission is intended for the named addressee(s) only and may > contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and > should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or > authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or > disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error > please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be > subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant > legislation > > For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer > > > > Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd > sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin > yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r > awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i > defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam > a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd > cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth > berthnasol. > > I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad > >