Mae hwnna yn well - ella y dylid osgoi'r gair 'terfynol' yn y cyd-destun yma. ----- Original Message ----- From: Sian Roberts To: [log in to unmask] Sent: Monday, January 31, 2011 3:53 PM Subject: Re: Headstrong Beth am "pendant"? Siān On 31 Ion 2011, at 15:49, MEG ELIS wrote: Enw ydi hwn ar raglen i gleifion canser sy'n eu helpu i ymdopi efo colli eu gwallt neu bosibilrwydd hynny fel sgil-effaith triniaeth. Dwi isio rhywbeth reit fachog, ond help, dwi'n methu meddwl am ddim byd ond "pengaled". Nes i feddwl am "codi gwallt eich pen" ond wedyn meddwl, hmmmm, na........! Rhyw deimlo fod "pengaled" dipyn bach yn yn fwy negyddol ei naws na "headstrong" - be ydi'ch barn chi? (O ia, mae na frys gwyllt amdano - wrth gwrs...)