Enw ydi hwn ar raglen i gleifion canser sy'n eu helpu i ymdopi efo colli eu gwallt neu bosibilrwydd hynny fel sgil-effaith triniaeth. Dwi isio rhywbeth reit fachog, ond help, dwi'n methu meddwl am ddim byd ond "pengaled". Nes i feddwl am "codi gwallt eich pen" ond wedyn meddwl, hmmmm, na........!  Rhyw deimlo fod "pengaled" dipyn bach yn yn fwy negyddol ei naws na "headstrong" - be ydi'ch barn chi?
 
(O ia, mae na frys gwyllt amdano - wrth gwrs...)