Diolch yn fawr am eglurhad champion! Dim ond gwair sy'n cael ei ladd felly. Anna 2011/1/31 Eurwyn Pierce Jones <[log in to unmask]> > Bydded yn wyliadwrus! Mewn rhai mannau (yn enwedig efallai o fewn > cysylltiadau garddwriaeth) gall ‘*lladd*’ olygu ‘difa’, yn yr ystyr o gael > gwared o dyfiant nas dymunir, e.e. lladd chwyn, lladd asgell, lladd llwyni > drain a mieiri, a lladd rhedyn (yn enwedig ‘*bracken* coch’ - o’i > wahaniaethu â ‘*fern* gwyrdd’); o’i gymharu â ‘*thorri*’ llystyfiant > llesol megis gwair, silwair, ŷd (ar gyfer ei bwydo - pobl / anifeiliaid), > neu ‘*dorri*’ lystyfiant defnyddiol megis brwyn neu gyrs, neu ‘*dorri*’ > gwrych h.y. tocio’r tyfiant HEB ladd (heb ddifa) tyfiant y planhigion eu > hunain sy’n cadw’r gwrych yn fyw ac i dyfu ymlaen eto i’r dyfodol. > > > > Rydw i wedi colli cyswllt i raddau helaeth â’m cefndir amaethyddol erbyn > hyn; ond mewn dyddiau a fu o leiaf (wn i ddim am arferion ffermio cyfoes) > roedd amaethwyr yn arfer TORRI cyrs (*reed* = corsen / brwynen) a hesg (* > sedge*) i’w ddefnyddio fel deunydd ‘gwely’ dan draed anifeiliad y maes (da > fferm) a gedwid i mewn (mewn siediau / stablau / beudai / corlannau dan do / > cadlasau / ac ati) yn enwedig dros gyfnod oerfel a gwlybaniaeth y gaeaf. > > > > Nawr, gan nad oedd hi’n fwriad i *ladd* na *difa*’r cyrs a’r hesg (i gael > gwared ohonynt oddi ar y tir unwaith ac am byth), ond yn hytrach, jest i * > dorri*’r pen-dyfiant (*top growth*) a chynaeafu’r cnwd ohonynt am eleni, > gyda’r gobaith y byddai cnwd newydd wedi aildyfu ohono’i hun drachefn erbyn > y flwyddyn nesaf (yn union yr fath ag yn achos torri’r gwair neu dori’r > {tocio’r} gwrych), yna yn fy marn i, fyddai defnydddio’r gair ‘*lladd*’ > ddim yn gymwys o gwbl yn achos cynaeafu’r cyrs (reed) na’r hesg (sedge). > Oni bai wrth gwrs, mai union ddiben y gorchwyl am ryw reswm, yw cael gwared > o’r cyfryw llystyfiant o’r tir unwaith ac am byth (gan mai dyna fyddai > oblygiadu’r ‘*lladd*’). > > > > Felly, byddet wyliadwrus ynglŷn â diben yr union weithred a olygir yn y > cyd-destun! > > > > Eurwyn. > > > ------------------------------ > > *From**:* Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *anna > gruffydd > *Sent:* 30 January 2011 11:28 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* reed and sedge cutting > > > > Be mae rhywun yn ei wneud efo'r rhain? eu torri nhw ta'u lladd nhw fath a > gwair? Diolch > > Anna >