Mae gan Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth y Cynulliad bolisi neu ganllaw, yn yr Arddulliadur, tudalen 20:
“deddfwriaeth
Mae’n arferol rhoi teitl Cymraeg – teitl ‘cwrteisi’ – i ddeddfau ac offerynnau statudol nad ydynt ar gael yn Gymraeg. Dylai llawer o’r teitlau fod yn
TermCymru.
Os bydd rhan o destun deddf Senedd y Deyrnas Unedig neu Senedd Ewrop yn cael ei dyfynnu, ni fyddwn yn cyfieithu’r darn i’r Gymraeg gan nad oes statws cyfreithiol i gyfieithiad o ddeddf.
Yn achos is-ddeddfwriaeth y Cynulliad, edrychwch yn 'Welsh Legislation' ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (OPSI) http://www.opsi.gov.uk/legislation/wales/wales_legislation.htm
Os nad oes fersiwn Gymraeg ar gael, ni ddylech gyfieithu’r darn.
Rhowch y frawddeg hon, neu addasiad ohoni, uwchben rhannau o ddeddfwriaeth a adewir yn Saesneg (ee mewn atodiad i ddogfen) er mwyn esbonio i’r darllenydd pam nad ydynt yn Gymraeg:
Nid yw'r rhan hon o'r ddogfen ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw.”
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 08 Ionawr 2011 10:28
To: [log in to unmask]
Subject: deddfau San Steffan
Dwi'n cyfieithu dogfen faith i'r Parciau Cenedlaethol. Mae yna gryn dipyn o son am ddedfwriaeth San Steffan sydd heb fod yn berthnasol i Gymru. Y ddeddf sy'n rhoi cur pen i mi ar hyn o bryd ydi Norfolk and Suffolk Broads Act. Oes gynnon ni ganllawiau neu bolisi o ran cyfieithu deddfau felly? Deddf Norfolk and Suffolk Broads, Deddf Broads Norfolk a Suffolk, gadael yr holl beth yn Saesneg? Byddwn yn ddiolchgar am unrhyw gymorth.
Anna