Pan es i’n gyfieithydd, ‘doedd dim hen
gyfieithwyr, neu ychydig iawn ohonynt. ‘Doedd cyfieithwyr ddim yn marw
neu’n ymddeol; ‘roedd pawb yn ifanc.
Erbyn hyn, ‘rwy’n gwybod beth sy’n digwydd
i hen gyfieithwyr: maen nhw’n dal i gyfieithu, ond yn cael rhagor o’r
hyn y byddai tad Bruce yn ei alw’n “thenciw jobs”, sef gwaith
di-dal. A dyma un ohonynt:
Mae cwmni di-Gymraeg, contractwyr toeau fflat, am hysbysebu
yn ein papur bro ni, ac yn dymuno cadw rhyw fersiwn o’u slogan, ‘so
clean you don’t (neu efallai ‘won’t) know we’ve been.
Mae Bruce wedi cael dau syniad:
Dim rhaid brwsio ar ol i ni drwsio (ond rhaid imi ofyn ai
trwsio yn unig a wneir)
Ar ol cwblhau, dim angen glanhau
Gw^n fod sloganwyr meistrolgar iawn ymhlith aelodau’r Cylch.
Unrhyw sylwadau/welliannau ar gynigion Bruce, neu unrhyw gynnig hollo newydd?
Llawer o ddiolch,
Ann