Bioleg oedd fy mhwnc gwannaf yn yr ysgol yn bendant, felly fyddwn i ddim dicach os dywedwch chi fod 'datblygu' yn gamarweiniol neu'n rhy benagored, ond tybed a fyddai dweud eu bod nhw'n datblygu yn un ffordd o gyfleu'r 'active', hyd yn oed os ydyn nhw'n cysgu neu'n ddigon disymud yn ystod y cyfnod hwn? Cofion gorau, Huw -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts Sent: 27 Ionawr 2011 11:58 To: [log in to unmask] Subject: Re: active larvae Diolch Geraint Na - maen nhw'n mynd i aeafgysgu wedyn. Beth am "bywiog"? - er dw i ddim yn gwybod pa mor fywiog ydyn nhw, chwaith Wnes i feddwl am "effro" hefyd ond mae'n siwr eu bod nhw'n cysgu weithiau Diolch Siân On 27 Ion 2011, at 11:51, Geraint Lovgreen wrote: > byw? > > ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts" > <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Wednesday, January 26, 2011 10:25 PM > Subject: active larvae > > > Beth yw'r gair am "active" wrth sôn am larfâu gloynnod byw? > > Fe wnes i holi'r cwsmer beth oedd "active": "Active in this > context means the larva were present and doing whatever Marsh > Fritillary butterfly larva â?~doâ?T (i.e. eat a lot and hang around > in large groups". > > Alla i ddim meddwl am yr union air. > > Diolch eto > > Siân