Print

Print


Rwy'n disgwyl i rywun o'r Cyngor Cefn Gwlad i ddod nôl ataf - dydyn  
nhw ddim yn gyfarwydd â'r term ond maen nhw'n mynd i ymchwilio.

Rwy'n deall bod "Ardal o Gymeriad Hanesyddol" / "Ardal o Gymeriad  
Hamdden" / "Ardal o Gymeriad Treftadaeth" yn swnio'n fwy naturiol  
na'r fersiwn heb yr "o" ond beth ddywedech chi am "Character Area" ar  
ei ben ei hunan?

"Mae Bodwrdda'n adeilad arwyddocaol yn yr ardal gymeriad hon. ...Mae'  
r ddwy ardal y tu allan i ffiniau'r ardal gymeriad hon."
www.heneb.co.uk/llynhlc/.../aberdaron2w.html

"Ar ochr ddwyreiniol y dyffryn, i'r gogledd a'r dwyrain o Landyrnog y  
mae'r ddwy ardal gymeriad hyn."
www.cpat.org.uk/projects/longer/histland/.../w_clorna.htm - Copi Cadw

Diolch eto

Siân

On 24 Ion 2011, at 12:02, Geraint Lovgreen wrote:

> Ardaloedd o Gymeriad Hanesyddol yn llawer gwell - fel y soniwyd,  
> mae "Ardaloedd Cymeriad Hanesyddol" yn swnio fel petaent yn  
> cyfeirio at un cymeriad hanesyddol fel Glyndwr.
> ----- Original Message -----
> From: Ann Corkett
> To: [log in to unmask]
> Sent: Sunday, January 23, 2011 4:54 PM
> Subject: Re: Historic Character Areas
>
> Sori, Sian.  A welaist ti fy neges gyntaf:
> “Wn i ddim beth yn union yw’r rhain neu bwy sy’n gyfrifol am eu  
> dynodi, ond mae “Ardal(oedd) o Gymeriad Hanesyddol” yn swnio’n well  
> i mi, ac mae sawl enghraifft ar wefan CADW.
> “Os ewch at “Advanced Search” ar Google, gyda llaw, mae modd  
> chwilio ar wefan sefydliadau unigryw, sy’n help i fynd at lygad y  
> ffynnon.”
>
> Wedi chwilio ymhellach, ‘rwyf wedi dod ar draws gwefan y “Landscape  
> Character Network”, sy’n awgrymu mai’r Cyngor Cefn Gwlad sy’n  
> gyfrifol yng Nghymru.  Mae gan “English Heritage” rywbeth ar  
> “Historic Landscape Character” ac mae gan CADW (gyda’r CCW) dudalen  
> am “Historic Landscape Characterisation”: <http://www.heneb.co.uk/ 
> charlist.html>.  Mae gen i deimlad fy mod i, flynyddoedd yn ol,  
> hefyd wedi gorfod ymgodymu a rhyw gyfuniad o’r geiriau hyn mewn teitl.
>
> Efallai byddai galwad ffon i’r CADW neu i gyfieithwyr y Cyngor Cefn  
> Gwlad yn taflu goleuni ar bethau.
>
> Ann
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and  
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf  
> Of Sian Roberts
> Sent: 23 January 2011 15:55
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Historic Character Areas
>
> Mae rhai cyrff yn cynnwys yr "o":
> Deunyddiau ar Gyfer Palmentydd ac Ardaloedd o Gymeriad.     
> www.cardiff.gov.uk/objview.asp?Object_ID=14943&language=CYM
>
> ond nid pawb:
> Ardaloedd Cymeriad Tref Wrecsam
>
> "A yw rhannu'r Parc yn Ardaloedd Cymeriad Hamdden yn helpu?"
>
> Diolch eto
>
> Siân
>
>
> On 23 Ion 2011, at 15:30, Ann Corkett wrote:
>
>
> Felly beth am yr “o”?
> Ann
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and  
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf  
> Of Sian Roberts
> Sent: 23 January 2011 14:50
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Historic Character Areas
>
> Diolch yn fawr am eich gwaith caled, Ann.
>
> O'r hyn a welaf i, mae 'na wahanol fathau o "character areas" ac  
> mae'r rhain yn ymddangos ar wefannau gwahanol gyrff archaeolegol  
> fel "ardal gymeriad/ardaloedd cymeriad"
>
> Wna i holi'r cwsmer yn y bore.
>
> Diolch
>
> Siân
>
> On 23 Ion 2011, at 14:18, Ann Corkett wrote:
>
>
>
> Na phoenwch!  ‘Rwy’n methu copio dyfyniad o’r ddogfen hon - http:// 
> www.historiclandscape.co.uk/pdf/Describing%20Historic%20Character% 
> 20Areas%20_A%20Methodology%20Draft%20Version%201%20full% 
> 20090609.pdf- ond mae’n glir nad yw’n son am unigolyn hanesyddol.
>
> Ann
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and  
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf  
> Of Ann Corkett
> Sent: 23 January 2011 12:56
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Historic Character Areas
>
> Atolwg!
>
> Gwell ichi wirio’r ystyr, Sain.  Mae Bruce newydd crybwyll y  
> posiblirwydd bod y term yn golygu rhywbeth fel “Robin Hood Country”  
> neu “Owain Glyndwr Country”.
>
> Ann
>
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and  
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf  
> Of Sian Roberts
> Sent: 23 January 2011 10:22
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Historic Character Areas
>
> Os felly - "Ardal Gymeriad Hanesyddol" fyddai'r unigol, ie? - fel  
> sydd ar wefan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed  http:// 
> www.cambria.org.uk/ - yn hytrach nag "Ardal Cymeriad Hanesyddol"
>
> Diolch
>
> Siân
>
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 10.0.1191 / Virus Database: 1435/3398 - Release Date:  
> 01/23/11
>
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 10.0.1191 / Virus Database: 1435/3398 - Release Date:  
> 01/23/11
>
>
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 10.0.1191 / Virus Database: 1435/3398 - Release Date:  
> 01/23/11
>
>
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 10.0.1191 / Virus Database: 1435/3398 - Release Date:  
> 01/23/11
>