Prawfddarllen gwaith sydd wedi’i gyfieithu gan rywun arall ydw i (un o’m cas bethau!).
‘Accessing the data’ yw’r pennawd h.y. sut i gael gafael ar y data. Ar hyn o bryd ‘cael mynediad at y data’ yw’r cyfieithiad. Dwi’n cael fy nhemtio I’w newid yn llwyr (‘Cael gafael ar y data’ falle?) ond dwi ddim isho bod yn rhy llawdrwm chwaith!
Rhian
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 25 January 2011 13:23Subject: Re: mynediad i/at?
Dwi'n meddwl mai beth sy'n dod ar ol "i" ac "at" sy'n bwysig nid y gair sydd o'i flaen - felly (fel y cawsom i gyd ein dysgu yn yr ysgol!) - mynd at y deintydd, mynd i'r ysgol.
felly mynediad i le, ond mynediad at rywun neu rywbeth. Mynediad at wybodaeth felly.
Dwi'n cymryd mai cyfieithu "access to information" wyt ti - weithiau mae "hawl i weld gwybodaeth" yn well cyfieithiad.
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" target="_blank">Rhian Huws
To: [log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, January 25, 2011 1:13 PM
Subject: mynediad i/at?
Helo bawb
Dw i wastad wedi meddwl mai ‘mynediad i’ sy’n gywir (dyna sydd yn G.yr Academi), ond dwi’n aml yn gweld ‘mynediad at wybodaeth’ ac ati y dyddiau hyn.
Ydi’r un rheol ag ‘anfon i rywle’ ac ‘anfon at rywun’ yn berthnasol yma?
Diolch ymlaen llaw.
Rhian