Dwi'n meddwl mai beth sy'n dod ar ol "i" ac "at" sy'n bwysig nid y gair sydd o'i flaen - felly (fel y cawsom i gyd ein dysgu yn yr ysgol!) - mynd at y deintydd, mynd i'r ysgol.
 
felly mynediad i le, ond mynediad at rywun neu rywbeth. Mynediad at wybodaeth felly.
 
Dwi'n cymryd mai cyfieithu "access to information" wyt ti - weithiau mae "hawl i weld gwybodaeth" yn well cyfieithiad.
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Rhian Huws
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, January 25, 2011 1:13 PM
Subject: mynediad i/at?

Helo bawb

 

Dw i wastad wedi meddwl mai ‘mynediad i’ sy’n gywir (dyna sydd yn G.yr Academi), ond dwi’n aml yn gweld ‘mynediad at wybodaeth’ ac ati y dyddiau hyn.

 

Ydi’r un rheol ag ‘anfon i rywle’ ac ‘anfon at rywun’ yn  berthnasol yma?

 

Diolch ymlaen llaw.

 

Rhian