From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 24 Ionawr 2011 20:54
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: teitlau deddfwriaeth
Diolch, David
Ydi'r teitlau ar gael yn rhywle os nad ydyn nhw yn TermCymru?
Diolch
Siān
On 24 Ion 2011, at 20:47, David Bullock wrote:
Mae argymhellion cyfieithwyr Llywodraeth y Cynulliad ar gael yn yr Arddulliadur, yma:
A dyma’r adran ar Ddeddfwriaeth:
“Mae’n arferol rhoi teitl Cymraeg – teitl ‘cwrteisi’ – i ddeddfau ac offerynnau
statudol nad ydynt ar gael yn Gymraeg. Dylai llawer o’r teitlau fod yn
TermCymru.
Os bydd rhan o destun deddf Senedd y Deyrnas Unedig neu Senedd
Ewrop yn cael ei dyfynnu, ni fyddwn yn cyfieithu’r darn i’r Gymraeg gan
nad oes statws cyfreithiol i gyfieithiad o ddeddf.
Yn achos is-ddeddfwriaeth y Cynulliad, edrychwch yn 'Welsh Legislation'
ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (OPSI)
Os nad oes fersiwn Gymraeg ar gael, ni ddylech gyfieithu’r darn.
Rhowch y frawddeg hon, neu addasiad ohoni, uwchben rhannau o
ddeddfwriaeth a adewir yn Saesneg (ee mewn atodiad i ddogfen) er mwyn
esbonio i’r darllenydd pam nad ydynt yn Gymraeg:
Nid yw'r rhan hon o'r ddogfen ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o
ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw.”
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 24 Ionawr 2011 20:31
To: [log in to unmask]
Subject: teitlau deddfwriaeth
Beth yw'r drefn ynghylch cyfieithu teitlau deddfwriaeth y Deyrnas Unedig?
Infrastructure Planning (Environmental Impact Assessment) Regulations 2009
Mae "Asesiad Effaith Amgylcheddol", "Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol" ac "Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol" yn digwydd ar y we.
Diolch eto
Siān