Dwy ddim yn credu bod rhestr ar gael yn unman, sy’n golygu bod rhaid chwilio’n unigol bob tro.... gwaetha’r modd. From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Sian Roberts Sent: 24 Ionawr 2011 20:54 To: [log in to unmask] Subject: Re: ATB/RE: teitlau deddfwriaeth Diolch, David Ydi'r teitlau ar gael yn rhywle os nad ydyn nhw yn TermCymru? Diolch Siân On 24 Ion 2011, at 20:47, David Bullock wrote: Mae argymhellion cyfieithwyr Llywodraeth y Cynulliad ar gael yn yr Arddulliadur, yma: <http://new.wales.gov.uk/cisd/publications/translation/styleguidewelsh/style guidew.pdf;jsessionid=GR5jN9kGpLp939cGVK12RJNhRCSG1dkWvfknJHVp4zLJ7Zqv1YRH!6 5507243?lang=cy> http://new.wales.gov.uk/cisd/publications/translation/styleguidewelsh/styleg uidew.pdf;jsessionid=GR5jN9kGpLp939cGVK12RJNhRCSG1dkWvfknJHVp4zLJ7Zqv1YRH!65 507243?lang=cy A dyma’r adran ar Ddeddfwriaeth: “Mae’n arferol rhoi teitl Cymraeg – teitl ‘cwrteisi’ – i ddeddfau ac offerynnau statudol nad ydynt ar gael yn Gymraeg. Dylai llawer o’r teitlau fod yn TermCymru. Os bydd rhan o destun deddf Senedd y Deyrnas Unedig neu Senedd Ewrop yn cael ei dyfynnu, ni fyddwn yn cyfieithu’r darn i’r Gymraeg gan nad oes statws cyfreithiol i gyfieithiad o ddeddf. Yn achos is-ddeddfwriaeth y Cynulliad, edrychwch yn 'Welsh Legislation' ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (OPSI) http://www.opsi.gov.uk/legislation/wales/wales_legislation.htm Os nad oes fersiwn Gymraeg ar gael, ni ddylech gyfieithu’r darn. Rhowch y frawddeg hon, neu addasiad ohoni, uwchben rhannau o ddeddfwriaeth a adewir yn Saesneg (ee mewn atodiad i ddogfen) er mwyn esbonio i’r darllenydd pam nad ydynt yn Gymraeg: Nid yw'r rhan hon o'r ddogfen ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw.” From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Sian Roberts Sent: 24 Ionawr 2011 20:31 To: [log in to unmask] Subject: teitlau deddfwriaeth Beth yw'r drefn ynghylch cyfieithu teitlau deddfwriaeth y Deyrnas Unedig? Infrastructure Planning (Environmental Impact Assessment) Regulations 2009 Mae "Asesiad Effaith Amgylcheddol", "Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol" ac "Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol" yn digwydd ar y we. Diolch eto Siân