Efallai mai “creepage” yw’r gair i’w gyfieithu, nid “creep”? Ann _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Inc Cyfieithu Translations Sent: 24 January 2011 17:18 To: [log in to unmask] Subject: Re: Planning creep Nid cyfeirio at ddatblygiadau sy'n deillio o'r broses gynllunio y mae planning creep ond at y broses ei hunan - fel y mae cynseiliau penderfyniadau anffodus yn gorfodi swyddogion a phwyllgorau cynllunio i wyro'n gynyddol oddi ar y polisi cynllunio a chaniatau pethau sy'n groes i'w fwriad. Mae'r datblygiadau sy'n cael eu caniatau o ganlyniad i hyn yn hollol ddilys a does yna ddim byd 'llechwraidd' ynddyn nhw. Dyna pam fod polisiau cynllunio'n cael eu hadolygu mor aml. Wil On 24/01/2011 14:38, Translation Unit wrote: Ar ôl trafod hyn eto yn yr Uned, a fyddai 'datblygu (mewn modd) lladradaidd' (stealthy) yn cyfleu hyn? Diolch. _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Inc Cyfieithu Translations Sent: 24 January 2011 12:21 To: [log in to unmask] Subject: Re: Planning creep Dw i'n meddwl mai'r ystyr yw ei bod yn anos gwrthod cais cynllunio amheus os oes un tebyg wedi'i ganiatau o'r blaen a bod y ceisiadau y mae cynsail ar gyfer eu caniatau yn mynd yn fwy a mwy amheus (o gymharu â'r polisi) dros y blynyddoedd. Wil On 24/01/2011 12:11, Geraint Lovgreen wrote: Rhywbeth fel "cynnydd llechwraidd" neu "ddatblygu llechwraidd" hwyrach? Dwi ddim yn meddwl mai "cynllunio" ydi'r gair iawn yn fama. ----- Original Message ----- From: Translation <mailto:[log in to unmask]> Unit To: [log in to unmask] Sent: Monday, January 24, 2011 9:38 AM Subject: Planning creep Bore da, Rwy'n cyfieithu cofnodion ac mae hwn yn codi '..the current application was an example of planning creep'. A oes rhywun wedi cyfieithu'r term hwn o'r blaen neu a oes gan rywun unrhyw awgrymiadau? Diolch. Diolch a phob hwyl Aled Eynon Cyfieithydd / Translator Uned Gyfieithu/Translation Unit Parc Dewi Sant Caerfyrddin/Carmarthen Est./Ext. 6135 Llinell Uniongyrchol / Direct Line : 01267 246135 Rhif Ffacs / Fax Number : 01267 246155 E-bost/E-mail - aoeynon <mailto:[log in to unmask]> @sirgar.gov.uk _____ No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 10.0.1191 / Virus Database: 1435/3400 - Release Date: 01/24/11