Nid twpdra yn sicr, ac efallai mai anwybodaeth neu ddiofalwch ar dy ran di ydi haeru na châi'r un cwch neu long ei alw'n express - mae digon o enghreifftiau wrth Wglo - e.e. http://www.directferries.co.uk/irish_sea_express.htm
 
Rho dipyn o chwarae teg i'r cyfieithydd druan (dwnim pwy oedd o neu hi gyda llaw) - mae digon o bobl o'r tu allan yn barod i ladd arnon ni!
 
Geraint
 
(sori Berwyn, ond mi oedd raid imi achub cam y truan yn wyneb y fath ymosodiad!)
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Berwyn Jones
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Monday, January 24, 2011 4:22 PM
Subject: Re: "The Irish Boat Express" - un i Berwyn

Go brin y câi'r un cwch neu long ei alw'n 'express' - term ym myd y trenau oedd hwnnw. Anwybodaeth, twpdra neu ddiofalwch y cyfieithydd? Pob un o'r tri, mae'n debyg!
 
Wedi dweud hynny, mae'n syndod faint o gwsmeriaid sy'n anfon capsiynau i'w cyfieithu heb feddwl y byddai'n syniad da i'r cyfieithydd weld y lluniau.
 
Berwyn

2011/1/23 Ann Corkett <[log in to unmask]>

 

 

Buom mewn arddangosfa’n ddiweddar, a chael enghraifft o bwysigrwydd cael gweld y lluniau pan fyddwch yn cyfieithu capsiynau.

 

‘Roedd y cyfieithydd wedi cyfieithu’r uchod fel “Y Cwch Cyflym Gwyddelig” (“Y Cwch Cyflym o Iwerddon” efallai?).

 

Ond y llun oedd tren ste^m yn croesi Pont Britannia.

 

Ann