Wedi penderfynu defnyddio “gweithiwr ieunenctid datgysylltiedig”.

 

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 05 January 2011 15:29
To: [log in to unmask]
Subject: Re: detached youth worker

 

Mae’n ddrwg geni; dylwn fod wedi cynnwys diffiniad “detached youth worker” hefyd:

Mae Gweithwyr Ieuenctid Datgysylltiedig yn ymgysylltu â phobl ifanc sy’n anodd eu cyrraedd, yn aml â phobl ifanc yr ystyrir eu bod ar gyrion cymdeithas, ac yn genedlaethol mae'r ymagwedd Gwaith Ieuenctid hon wedi datblygu'n rhan ganolog o athroniaeth Gwaith Ieuenctid cyfoes. Mae Gweithwyr Ieuenctid Datgysylltiedig yn cydweithio â phobl ifanc ar eu tiriogaeth eu hun. Byddant yn siarad â nhw am eu hanghenion, cyn trafod a phenderfynu gyda’i gilydd beth i’w wneud. Yn gryno, mae Gwaith Ieuenctid Datgysylltiedig yn ddull sydd wedi’i gynllunio o ddatblygu cyfleoedd addysg a dysgu anffurfiol. Er mwyn gweithredu Gwaith Ieuenctid Datgysylltiedig yn llwyddiannus, rhaid mabwysiadu ymagwedd strwythuredig. Mae’r ymagwedd hon yn cynnwys pedwar cam, sef rhagchwiliad neu ymgyfarwyddo, gwneud cyswllt, ymyriadau a chefnogaeth, a symud ymlaen. Mae deilliannau posibl Gwaith Ieuenctid Datgysylltiedig yn cynnwys hyrwyddo gwell ymwybyddiaeth o wasanaethau cymunedol, mynediad at addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, hybu iechyd, yn enwedig o ran materion cyffuriau, alcohol ac iechyd rhywiol, perthnasau cymunedol gwell, atal troseddau a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 05 January 2011 15:27
To: [log in to unmask]
Subject: Re: detached youth worker

 

Ymddengys “allymestyn” yn air diangen.  Ar http://www.trinitysaintdavid.ac.uk/en/schoolofsocialjusticeandinclusion/youthwork/directoryofterms/ ceir Cyfeirlyfr Termau Ysgol Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol Y Drindod Dewi Sant (teitl cableddus? angramadegol?).

 

Beth bynnag, yno ceir: Gwaith Ieuenctid Datgysylltiedig (Detached Youth Work) a Gwaith Ieuenctid Estyn Allan (Outreach Youth Work) a dywedir:

 

“Nid yw’r gwahaniaeth rhwng Gwaith Ieuenctid Estyn Allan a Datgysylltiedig bob amser yn eglur. Yn rhannol gallai hyn fod oherwydd bod rhywfaint o debygrwydd arfer o ran ble bydd y gwaith yn cael ei gyflawni (ar y stryd, caffis a llochesi bysiau). Mae Gwaith Ieuenctid Estyn Allan yn wahanol i Waith Ieuenctid Datgysylltiedig. Mae Gweithwyr Ieuenctid Estyn Allan yn gysylltiedig â lleoliad – er enghraifft canolfan neu glwb – ac mae’u rolau’n cynnwys dod â phobl ifanc mewn i weithgareddau a darpariaeth sydd eisoes yn bodoli o fewn eu sefydliad. Yn ei hanfod mae Gwaith Ieuenctid Estyn Allan yn golygu mynd â gwasanaethau allan o’u lleoliadau arferol a phrif ffrwd o fewn sefydliadau, a’u darparu mewn lleoliadau lleol a chymunedol. O ran nodau ac amcanion, gosodir agenda Gwaith Ieuenctid Estyn Allan gan y sefydliad, a'r sefydliad hefyd yw'r prif adnodd. Mae’n gweithio gyda defnyddwyr y gallai fod eisiau’r ddarpariaeth arnynt, ond nad ydynt yn ymwybodol o’r cyfleoedd neu maent yn anfodlon defnyddio adeiladau.”

 

Yn bersonol, ni welaf y byddai angen yr “Allan” ar ol “Estyn” o gwbl, ac eithrio’r angen i osgoi cymysgu ag “Estyn” y corff.

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gareth Jones
Sent: 05 January 2011 15:12
To: [log in to unmask]
Subject: Re: detached youth worker

 

Fodd bynnag, mewn adroddiad diweddarach (Partneriaeth Pobl Ifanc Wrecsam 2007), mae nhw'n cyfeirio at 'gwaith ar wahân ac allymestyn' - 'detached and outreach work'.

 

Os dwi'n cofio'n iawn, mae 'allgymorth' yn fwy addas ar gyfer 'outreach' na 'detached' - mae na wahaniaeth rhwng y ddau fath o weithiwr ieuenctid.

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Alison Reed

To: [log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Wednesday, January 05, 2011 10:33 PM

Subject: detached youth worker

 

Cyd-destun: gwaith cymdeithasol

 

A significant number of at-risk young people spend countless hours on local streets socializing with their peers, detached from their homes and families. A detached youth worker reaches out to help them identify and make positive life choices.

Wedi gweld enghreifftiau o’r canlynol ar y we:

 

gweithiwr ieuenctid allgymorth / allanol / datgysylltiedig / ar wahân

 

Unrhyw sylwadau os gwelwch yn dda?

 

 


No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 10.0.1191 / Virus Database: 1435/3359 - Release Date: 01/04/11


No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 10.0.1191 / Virus Database: 1435/3359 - Release Date: 01/04/11