Cytuno. Yn achos rhywun fel 'yr Arglwydd Hailsham', y patrwm safonol fyddai 'y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Hailsham'. Dyw colli'r fannod yn 'Arglwydd Faer Caerdydd' ddim yn newid y patrwm.
Rwy’n cael ar ddeall ein bod i ddarllen y teitl fel ‘The Right Honourable, the Lord Mayor of Cardiff’. Nid y swydd sy’n Wir Anrhydeddus, ond y person a hwnnw’n Arglwydd Faer Caerdydd.
Mary
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 20 January 2011 10:25
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: The Rt Hon The Lord Mayor of Cardiff
Fyddwn i ddim yn rhoi'r fannod. Mae o 'run fath â 'Y Prif Weinidog' ond 'Prif Weinidog Cymru' swn i'n meddwl.
Carolyn
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran anna gruffydd
Anfonwyd/Sent: 20 Ionawr 2011 10:24
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: The Rt Hon The Lord Mayor of Cardiff
Wedi mwydro mhen efo'r fannod - ai 'y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd' ta 'Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd'? Diolch
Anna