Tybed oes unrhyw un yn gyfarwydd â thermau coedwigaeth? Dyma'r cyd-destun: ...the harvesting of branches and twigs (also known as 'brash', 'slash', 'lop and top' or 'forest residues') is now regularly undertaken during commercial harvesting throughout the UK, in order to supply fuel to large power plants. Dyma rai awgrymiadau o wefan y Cynulliad a GyrA: brash - tocion (yn hytrach na malurion, sy'n golygu chippings hyd ag y gwela i) slash - coediach (sef debris of wood, yn ol GyrA) lop and top - tocion coed / tocion a brigdorion forest residues - gweddillion coedwigoedd / o goedwigoedd Ydy'r rhain yn weddol agos at eu lle?