Dwi’n gobeithio na fydd y Cynulliad yn meindio i mi godi’r darn hwn o’r Arddulliadur.  Mi fydd y mwyafrif ohonom yn dilyn y canllawiau hyn beth bynnag, ond rhag ofn y bydd o’n handi i rai o aelodau newydd y cylch (fel oedd o i mi, yn sicr), dyma ei anfon at bawb.

 

 

Acronymau

 

Mae acronymau yn digwydd yn gyffredin (ac yn wir yn cael eu gorddefnyddio) mewn testunau Saesneg. Ni ddylid dilyn hynny’n slafaidd a defnyddio acronym yn y testun Cymraeg bob tro y ceir un yn y Saesneg.  Ond, ar y llaw arall, nid oes modd eu hosgoi’n llwyr.

Natur y ddogfen fydd yn penderfynu weithiau i ba raddau y dylid defnyddio acronymau. Er enghraifft, mae’n bosibl y byddai cyfieithydd yn dewis

ysgrifennu enw rhaglen neu gorff yn llawn pe bai’n ymddangos unwaith neu ddwy mewn datganiad i’r wasg neu lythyr, ond pe bai’r un teitl yn codi

ddegau o weithiau mewn dogfen bolisi byddai ei roi’n llawn bob tro yn llafurus i’r darllenydd ac yn ychwanegu at hyd y ddogfen.

Os byddwch yn defnyddio acronym, rhowch yr enw llawn y tro cyntaf, heblaw am ambell un na fyddai ei enw llawn yn gyfarwydd, ee TGAU neu

BBC.

Weithiau, ni fydd yr enw llawn wedi’i gynnwys yn y ddogfen Saesneg a bydd angen holi’r sawl a gomisiynodd y gwaith, yn hytrach na dyfalu’r

ystyr.

Os na fydd yr acronym yn gyfarwydd, y peth gorau yw cynnig cyfieithiad llawn y tro cyntaf y byddwch yn cyfeirio at y corff yn y testun a rhoi’r

acronym ar ôl y teitl mewn cromfachau, ee Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru (ASGC). Gallwch wedyn ddefnyddio’r acronym Cymraeg yng

ngweddill y testun neu gyfeirio at y corff fel ‘yr Arolygiaeth’, ‘yr Awdurdod’ neu ‘y Bwrdd’ ac yn y blaen, fel y bo’n briodol.

Yn achos ‘WAG’ (Welsh Assembly Government’) – yn hytrach na gorddefnyddio ‘LlCC’ gellir rhoi ‘Llywodraeth Cynulliad Cymru’ y tro cyntaf

ac yna ‘Llywodraeth y Cynulliad’ neu ‘y Llywodraeth’ (mewn achosion lle’r ydych yn gwbl fodlon nad oes modd i hynny roi’r argraff mai Llywodraeth y

DU sydd dan sylw).

Peidiwch â chreu acronymau Cymraeg ar gyfer enwau cyrff neu fudiadau os nad ydynt yn eu defnyddio eu hunain. Defnyddiwch yr enw llawn yn Gymraeg (lle bo hynny’n briodol) ond yr acronym Saesneg.

Mae enwau rhai cymwysterau’n cael eu trin yn yr un modd. Er enghraifft, defnyddiwch yr acronymau NVQ a GNVQ, ond lle bo angen cyfeirio at y

teitlau yn llawn defnyddiwch ‘Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol’ a ‘Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol’.

O ddefnyddio acronym Saesneg ac enw llawn Cymraeg, ni fydd angen cynnwys y teitl llawn Saesneg hefyd er mwyn esbonio’r acronym.

Wrth ddefnyddio’r lluosog rhowch y terfyniad lluosog ar ddiwedd yr acronym, ee ‘AALlau’ am ‘Awdurdodau Addysg Lleol’, nid ‘AauALl’.

Peidiwch â threiglo llythyren gyntaf yr acronym, ee anfon e-bost i CBAC, nid ‘i GBAC’.

Mae Cynllun Iaith Gymraeg Llywodraeth Cynulliad Cymru yn nodi mai’r polisi cyffredinol, yn achos unrhyw fenter bolisi newydd, fydd defnyddio

brandiau dwyieithog, gan gynnwys acronymau, sloganau a logos. Mae hynny’n wir hefyd am enwau prif adrannau polisi’r Llywodraeth, ee

DELLS (Department for Education, Lifelong Learning and Skills) – AADGOS (Yr Adran Addysg Dysgu Gydol Oes a Sgiliau). Nid yw’n arfer

defnyddio acronymau Cymraeg ar gyfer teitlau’r is-adrannau, fodd bynnag.

 

 

http://wales.gov.uk/cisd/publications/translation/styleguidewelsh/styleguidew.pdf?lang=cy

 

Cofion gorau,

 

Huw

 

 

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards
Sent: 19 Ionawr 2011 10:55
To: [log in to unmask]
Subject: Re: CLG

 

Yn union, yn enwedig pan dwi’n gwybod bod yr awdur yn defnyddio rhai Cymraeg a rhai Saesneg yn yr un darn (gan ’mod i’n adnabod rhai ohonyn nhw o brofiad).

 

Ond y tro ’ma, diolch i aelodau’r cylch, does dim angen i mi fynd i daro ’mhen yn erbyn y wal.

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 19 January 2011 10:47
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: CLG[Spam score: 8%][Scanned]

 

Fel tasa'i angen, dyna ddangos eto mor hurt ydi acronyma, pan dan ni ddim hyd yn oed yn gwbod ym mha iaith mae'r cnafon

Anna