Print

Print


“Trydar” dwi wedi’i weld yn  “Golwg”.  A fyddai “Trydar” a “negeseuon Trydar” yn ddealladwy i’r darllenydd cyffredin tybed?  Neu a fyddai hi’n well cadw at “Twitter” a “negeseuon Twitter”? 

 

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 18 January 2011 16:29
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Twitter

 

Mae 'na 15,000 o enghreifftiau o "trydar" ar Gwgl, ac mae'r dudalen gyntaf, o leiaf, i gyd yn cyfeirio at Twitter.

 

Yn lle buest ti'n chwilio Annes?

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">anna gruffydd

To: [log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Tuesday, January 18, 2011 4:25 PM

Subject: Re: Twitter

 

Ddaru mi chwilio am hwn yn ddiweddar a'r unig beth gawn i ar y we oedd 'tweet' - oedd yn fy nharo i braidd yn chwithig gan na does gynnon ni ddim ee yn Gymraeg, ond gan mai at gyflwyniad llafar oedd y gair doedd fawr o ots sut oedd ei sillafu. Fasa'n dda gen i feddwl bod rhywbeth arall yn mynd i ennill ei blwy yn lle twitio/twitiau

Anna

2011/1/18 Alison Reed <[log in to unmask]>

Ydy “Trydar” yn gyfieithiad sydd wedi ennill ei blwyf yn y Gymraeg?

 

Sut byddech chi’n cyfieithu “tweets” – negeseuon Trydar?