Yr hyn sy'n achosi tipyn o drafferth i fi yw pethau fel "dwi eisiau/ angen". Mae PWT yn dweud ei bod yn gystrawen "ansafonol" sydd heb ei "chyffredinoli i bob cyd-destun gan bawb sy'n ei harfer" ond dyna'r unig ffurf sy'n cael ei ddysgu i'r rhan fwyaf o ddysgwyr, hyd y gwela i, ac mae i'w chlywed ar y newyddion ac ati. Ydi hi wedi dod yn dderbyniol? Siân On 18 Ion 2011, at 11:16, Geraint Lovgreen wrote: > Wel ie, ond os nad ydi PWT yn awdurdod pwy sydd? A be di'r pwynt i > Wasg y Brifysgol gyhoeddi ei lyfr os nad ydio i fod yn Ramadeg > awdurdodol? > ----- Original Message ----- > From: Carolyn > To: [log in to unmask] > Sent: Tuesday, January 18, 2011 10:03 AM > Subject: ATB: 73 years > > Ond yw gwir yw, Geraint, bod gwahanol bethau'n corddi gwahanol bobl > a dyna pam mae angen rheolau - dyna pam wnaeth pobl lunio > gramadegau ffurfiol yn y lle cyntaf. Rhwydd hynt i bawb ddilyn eu > trywydd eu hunain ar lafar ac mewn cyweiriau anffurfiol - ond mae > cywair ffurfiol pob iaith yn dibynnu ar reolau safonol. > Carolyn > > Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology > and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar > ranGeraint Lovgreen > Anfonwyd/Sent: 18 Ionawr 2011 09:54 > At/To: [log in to unmask] > Pwnc/Subject: Re: 73 years > > Na, dydi o ddim yn golygu bod unrhyw ffurf yn dderbyniol, ac mi > ddefnyddia i 'chwe blynedd ' wrth gyfieithu, ond dwi yn ei weld yn > hurt gan mai 'chwe mlynedd' mae pobl yn ei ddweud a bod hynny'n > deillio'n ol i Lyfr Coch Hergest! Mae'n reol sy'n creu cymhlethdod > cwbl ddiangen (ac ie, "mae'n rheol" sy'n ramadegol gywir - dyna > reol arall dwi wedi'i thorri) > > Y gwallau sy'n mynd fwy ar fy nerfau i ydi'r arfer cynyddol o ddeud > pethau fel "diwedd y ffordd" yn lle "pen y ffordd" (mae'r ffordd yn > dal yno, felly does yna ddim diwedd wedi bod!); "y tri ohonom" yn > lle "ni'n tri"; a'r math yna o beth.... > > Geraint > ----- Original Message ----- > From: Ann Corkett > To: [log in to unmask] > Sent: Monday, January 17, 2011 7:45 PM > Subject: Re: 73 years > > A yw hyn yn golygu bod unrhyw ffurf sydd “wedi ymledu'n ddiweddar” > yn dderbyniol? Mi wn i mai fel hyn mae unrhyw iaith yn newid, ond > mae “gwallau” yn ymledu mor gyflym rwan, gyda thechnoleg fodern, > fel ei bod hi’n anodd gwybod ble i dynnu’r llinell. > Er enghraifft, mae’n dod yn naturiol i mi, yn Saesneg, i > wahaniaethu rhwng “may” a “might”, ac i ddefnyddio “is” neu “are” > yn ol y goddrych. Ydy’r ffaith bod gohebyddion y “Daily Post” byth > a hefyd yn baglu drostyn nhw yn golygu na ddylwn i gyfrif > enghreifftiau o’r rhain yn wallau mewn arholiad mwyach? > > Gyda llaw, wrth son am y “Daily Post”, a welodd pobl bennawd > erthygl Dylan Jones-Evans heddiw (gan is-olygydd, mae’n debyg): > “Rhodri needs to learn from Salmond’s personal touch”? > > Ann > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf > OfGeraint Lovgreen > Sent: 17 January 2011 18:10 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: 73 years > > Wel mae "... mympwy gramadegwyr yw mynnu mai chwe blynedd sydd yn > 'gywir'," yn awgrym clir ei fod yn derbyn "chwe mlynedd" beth > bynnag, ac mi faswn innau'n cytuno. Fel y dywedaist, disgrifio ydi > gwaith geiriadurwr, a gramadegwr hefyd petai'n dod i hynny. > ----- Original Message ----- > From: Ann Corkett > To: [log in to unmask] > Sent: Monday, January 17, 2011 5:22 PM > Subject: Re: 73 years > > Beth yw “digon da” yn ei olygu? Caiff Bruce ei feirniadu weithiau > am dermau sathredig yng Ngeiriadur yr Academi. Ond disgrifio yw > prif waith geiriadurwr (os ydw i’n ei ddeall yn iawn), nid dyfeisio > (er bod angen llawer o hwnnw yn y Gymraeg), ac fel arfer fe nodir > bod y term dan sylw yn sathredig. Ydy PWT yn dweud bod tair mlynedd > yn dderbyniol, ynteu bod y ffurf yn digwydd? > > Ann > From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf > OfGeraint Lovgreen > Sent: 17 January 2011 16:51 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: 73 years > > A phwy ydi'r 'gramadegwyr' bondigrybwyll yma? Os ydio'n dderbyniol > gan Peter Wynn, mae hynny'n ddigon da i mi! > ----- Original Message ----- > From: Berwyn Jones > To: [log in to unmask] > Sent: Monday, January 17, 2011 4:28 PM > Subject: Re: 73 years > > Byddwn i'n cytuno'n llwyr â Sian a Sylvia, ond wrth ddyfarnu'n > bendant bod 'tair blynedd' yn "gywir", mae'n werth cofio pwynt > Peter Wynn Thomas ar tt 5-6 Gramadeg y Gymraeg lle mae'n olrhain > treiglo 'blynedd' ar o^l 'chwech' ac yn so^n bod "o leiaf ddwy > enghraifft gynnar o chwech mlynedd yn Llyfr Coch Hergest a > llawysgrif Peniarth 19", hynny yw, o'r bymthegfed ganrif ... > > "... mympwy gramadegwyr yw mynnu mai chwe blynedd sydd yn 'gywir'," > meddai Peter gan ladd ar T J Morgan am alw'r ffurf yn 'llygriad > tafodieithol', ac yn nodyn 1[d] ar td 6 mae'n dwweud: "Arwydd bod > cydweddiad yn dal ar waith yw bod y treigliad wedi ymledu'n > ddiweddar i'r ffurfiau tair mlwydd oed, tair mlynedd a pedair > mlwydd, pedair mlynedd." > > Y cwestiwn sy'n codi wedyn yw pryd y caiff cydweddiad ar lafar ei > ystyried yn 'ddatblygiad derbyniol' gan ramadegwyr ... > > Berwyn > > 2011/1/17 Jones,Sylvia Prys <[log in to unmask]> > Blynedd. > > Eldred Bet wrote: > > > Helo bawb > > > P’un sy’n gywir > > > 73 blynedd neu 73 mlynedd? > > > Diolch ymlaen llaw am eich cymorth. > > > Bet > > > Bet Eldred > > Uwch Gyfieithydd - Senior Translator > > Uned Gyfieithu - Translation Unit > > Heddlu Dyfed Powys Police > > 101 Est/Ext 6558 > > Mewnol/Internal 23175 > [log in to unmask] <mailto:bet.eldred@Dyfed- > Powys.pnn.police.uk> > > > > > E-MAIL CONFIDENTIALITY STATEMENT > > This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily > the view of Dyfed-Powys Police. It is intended only for the person > or entity named above. If you have received this e-mail in error > please notify the originator and erase this e-mail from your > system. If you are not the intended recipient or the employer or > agent responsible for delivering it to the intended recipient, you > are hereby notified that any use, review, dissemination, > distribution or copying of the e-mail is strictly prohibited. This > e-mail and any files transmitted within it have been checked for > all known viruses. The recipient should still check the e-mail and > any attachments for the presence of viruses, as Dyfed-Powys Police > accepts no liability for any damage caused by any virus transmitted > by this e-mail. > > DATGANIAD CYFRINACHEDD E BOST > > Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o > angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Dyfed-Powys. Bwriedir yr > e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os > derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad, dylid hysbysu'r anfonydd > a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda. Os na'i > fwriadwyd ar eich cyfer chi ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant > sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig, fe'ch > hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, > dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif. Archwiliwyd yr e- > bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef am firws. Serch > hynny, dylai'r derbynnydd hefyd archwilio'r e-bost a'r ffeiliau > sydd ynghlwm am firws oherwydd nid yw Heddlu Dyfed Powys yn derbyn > cyfrifoldeb am unrhyw ddifrod a achosir gan unrhyw firws a > drosglwyddir trwy gyfrwng yr e-bost hwn. > > * Dyfed Powys Police – the lowest levels of recorded crime and > highest total detection rate across the whole of England andWales. * > *Heddlu Dyfed Powys – y lefelau isaf o droseddau a recordiwyd a’r > gyfradd ddatrys uchelaf ar draws Cymru a Lloegr gyfan.* > > > > > -- > Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]> > > Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit > Canolfan Bedwyr > Prifysgol Bangor/Bangor University > > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com > Version: 10.0.1191 / Virus Database: 1435/3386 - Release Date: > 01/17/11 > > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com > Version: 10.0.1191 / Virus Database: 1435/3386 - Release Date: > 01/17/11 >