Print

Print


Wel ie, ond os nad ydi PWT yn awdurdod pwy sydd? A be di'r pwynt i Wasg y Brifysgol gyhoeddi ei lyfr os nad ydio i fod yn Ramadeg awdurdodol?
  ----- Original Message ----- 
  From: Carolyn 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Tuesday, January 18, 2011 10:03 AM
  Subject: ATB: 73 years


  Ond yw gwir yw, Geraint, bod gwahanol bethau'n corddi gwahanol bobl a dyna pam mae angen rheolau - dyna pam wnaeth pobl lunio gramadegau ffurfiol yn y lle cyntaf. Rhwydd hynt i bawb ddilyn eu trywydd eu hunain ar lafar ac mewn cyweiriau anffurfiol - ond mae cywair ffurfiol pob iaith yn dibynnu ar reolau safonol.

  Carolyn

   


------------------------------------------------------------------------------

  Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen
  Anfonwyd/Sent: 18 Ionawr 2011 09:54
  At/To: [log in to unmask]
  Pwnc/Subject: Re: 73 years

   

  Na, dydi o ddim yn golygu bod unrhyw ffurf yn dderbyniol, ac mi ddefnyddia i 'chwe blynedd ' wrth gyfieithu, ond dwi yn ei weld yn hurt gan mai 'chwe mlynedd' mae pobl yn ei ddweud a bod hynny'n deillio'n ol i Lyfr Coch Hergest! Mae'n reol sy'n creu cymhlethdod cwbl ddiangen (ac ie, "mae'n rheol" sy'n ramadegol gywir - dyna reol arall dwi wedi'i thorri)

   

  Y gwallau sy'n mynd fwy ar fy nerfau i ydi'r arfer cynyddol o ddeud pethau fel "diwedd y ffordd" yn lle "pen y ffordd" (mae'r ffordd yn dal yno, felly does yna ddim diwedd wedi bod!); "y tri ohonom" yn lle "ni'n tri"; a'r math yna o beth....

   

  Geraint

    ----- Original Message ----- 

    From: Ann Corkett 

    To: [log in to unmask] 

    Sent: Monday, January 17, 2011 7:45 PM

    Subject: Re: 73 years

     

    A yw hyn yn golygu bod unrhyw ffurf sydd "wedi ymledu'n ddiweddar" yn dderbyniol? Mi wn i mai fel hyn mae unrhyw iaith yn newid, ond mae "gwallau" yn ymledu mor gyflym rwan, gyda thechnoleg fodern, fel ei bod hi'n anodd gwybod ble i dynnu'r llinell.

    Er enghraifft, mae'n dod yn naturiol i mi, yn Saesneg, i wahaniaethu rhwng "may" a "might", ac i ddefnyddio "is" neu "are" yn ol y goddrych.  Ydy'r ffaith bod gohebyddion y "Daily Post" byth a hefyd yn baglu drostyn nhw yn golygu na ddylwn i gyfrif enghreifftiau o'r rhain yn wallau mewn arholiad mwyach?

     

    Gyda llaw, wrth son am y "Daily Post", a welodd pobl bennawd erthygl Dylan Jones-Evans heddiw (gan is-olygydd, mae'n debyg): "Rhodri needs to learn from Salmond's personal touch"?

     

    Ann

     


----------------------------------------------------------------------------

    From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
    Sent: 17 January 2011 18:10
    To: [log in to unmask]
    Subject: Re: 73 years

     

    Wel mae "... mympwy gramadegwyr yw mynnu mai chwe blynedd sydd yn 'gywir',"  yn awgrym clir ei fod yn derbyn "chwe mlynedd" beth bynnag, ac mi faswn innau'n cytuno. Fel y dywedaist, disgrifio ydi gwaith geiriadurwr, a gramadegwr hefyd petai'n dod i hynny.

      ----- Original Message ----- 

      From: Ann Corkett 

      To: [log in to unmask] 

      Sent: Monday, January 17, 2011 5:22 PM

      Subject: Re: 73 years

       

      Beth yw "digon da" yn ei olygu?  Caiff Bruce ei feirniadu weithiau am dermau sathredig yng Ngeiriadur yr Academi.  Ond disgrifio yw prif waith geiriadurwr (os ydw i'n ei ddeall yn iawn), nid dyfeisio (er bod angen llawer o hwnnw yn y Gymraeg), ac fel arfer fe nodir bod y term dan sylw yn sathredig. Ydy PWT yn dweud bod tair mlynedd yn dderbyniol, ynteu bod y ffurf yn digwydd?

       

      Ann


--------------------------------------------------------------------------

      From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
      Sent: 17 January 2011 16:51
      To: [log in to unmask]
      Subject: Re: 73 years

       

      A phwy ydi'r 'gramadegwyr' bondigrybwyll yma? Os ydio'n dderbyniol gan Peter Wynn, mae hynny'n ddigon da i mi!

        ----- Original Message ----- 

        From: Berwyn Jones 

        To: [log in to unmask] 

        Sent: Monday, January 17, 2011 4:28 PM

        Subject: Re: 73 years

         

        Byddwn i'n cytuno'n llwyr â Sian a Sylvia, ond wrth ddyfarnu'n bendant bod 'tair blynedd' yn "gywir", mae'n werth cofio pwynt Peter Wynn Thomas ar tt 5-6 Gramadeg y Gymraeg lle mae'n olrhain treiglo 'blynedd' ar o^l 'chwech' ac yn so^n bod "o leiaf ddwy enghraifft gynnar o chwech mlynedd yn Llyfr Coch Hergest a llawysgrif Peniarth 19", hynny yw, o'r bymthegfed ganrif ...

         

        "... mympwy gramadegwyr yw mynnu mai chwe blynedd sydd yn 'gywir'," meddai Peter gan ladd ar T J Morgan am alw'r ffurf yn 'llygriad tafodieithol', ac yn nodyn 1[d] ar td 6 mae'n dwweud: "Arwydd bod cydweddiad yn dal ar waith yw bod y treigliad wedi ymledu'n ddiweddar i'r ffurfiau tair mlwydd oed, tair mlynedd a pedair mlwydd, pedair mlynedd." 

         

        Y cwestiwn sy'n codi wedyn yw pryd y caiff cydweddiad ar lafar ei ystyried yn 'ddatblygiad derbyniol' gan ramadegwyr ...

         

        Berwyn


        2011/1/17 Jones,Sylvia Prys <[log in to unmask]>

          Blynedd.

          Eldred Bet wrote:



          Helo bawb

           
          P'un sy'n gywir

           
          73 blynedd neu 73 mlynedd?

           
          Diolch ymlaen llaw am eich cymorth.

           
          Bet

           
          Bet Eldred

          Uwch Gyfieithydd - Senior Translator

          Uned Gyfieithu - Translation Unit

          Heddlu Dyfed Powys Police

          101 Est/Ext 6558

          Mewnol/Internal 23175

          [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> 



           
           
          E-MAIL CONFIDENTIALITY STATEMENT

          This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of Dyfed-Powys Police. It is intended only for the person or entity named above. If you have received this e-mail in error please notify the originator and erase this e-mail from your system. If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying of the e-mail is strictly prohibited. This e-mail and any files transmitted within it have been checked for all known viruses. The recipient should still check the e-mail and any attachments for the presence of viruses, as Dyfed-Powys Police accepts no liability for any damage caused by any virus transmitted by this e-mail.

          DATGANIAD CYFRINACHEDD E BOST

          Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Dyfed-Powys. Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad, dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda. Os na'i fwriadwyd ar eich cyfer chi ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig, fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif. Archwiliwyd yr e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef am firws. Serch hynny, dylai'r derbynnydd hefyd archwilio'r e-bost a'r ffeiliau sydd ynghlwm am firws oherwydd nid yw Heddlu Dyfed Powys yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw ddifrod a achosir gan unrhyw firws a drosglwyddir trwy gyfrwng yr e-bost hwn.

          * Dyfed Powys Police - the lowest levels of recorded crime and highest total detection rate across the whole of England and Wales. *

          *Heddlu Dyfed Powys - y lefelau isaf o droseddau a recordiwyd a'r gyfradd ddatrys uchelaf ar draws Cymru a Lloegr gyfan.*

           



          -- 
          Dr Sylvia Prys Jones    01248 382036  <[log in to unmask]>

          Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
          Canolfan Bedwyr
          Prifysgol Bangor/Bangor University

         


--------------------------------------------------------------------------

      No virus found in this message.
      Checked by AVG - www.avg.com
      Version: 10.0.1191 / Virus Database: 1435/3386 - Release Date: 01/17/11


----------------------------------------------------------------------------

    No virus found in this message.
    Checked by AVG - www.avg.com
    Version: 10.0.1191 / Virus Database: 1435/3386 - Release Date: 01/17/11