Print

Print


Beth yw “digon da” yn ei olygu?  Caiff Bruce ei feirniadu weithiau am dermau
sathredig yng Ngeiriadur yr Academi.  Ond disgrifio yw prif waith
geiriadurwr (os ydw i’n ei ddeall yn iawn), nid dyfeisio (er bod angen
llawer o hwnnw yn y Gymraeg), ac fel arfer fe nodir bod y term dan sylw yn
sathredig. Ydy PWT yn dweud bod tair mlynedd yn dderbyniol, ynteu bod y
ffurf yn digwydd?

 

Ann

  _____  

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 17 January 2011 16:51
To: [log in to unmask]
Subject: Re: 73 years

 

A phwy ydi'r 'gramadegwyr' bondigrybwyll yma? Os ydio'n dderbyniol gan Peter
Wynn, mae hynny'n ddigon da i mi!

----- Original Message ----- 

From: Berwyn <mailto:[log in to unmask]>  Jones 

To: [log in to unmask] 

Sent: Monday, January 17, 2011 4:28 PM

Subject: Re: 73 years

 

Byddwn i'n cytuno'n llwyr â Sian a Sylvia, ond wrth ddyfarnu'n bendant bod
'tair blynedd' yn "gywir", mae'n werth cofio pwynt Peter Wynn Thomas ar tt
5-6 Gramadeg y Gymraeg lle mae'n olrhain treiglo 'blynedd' ar o^l 'chwech'
ac yn so^n bod "o leiaf ddwy enghraifft gynnar o chwech mlynedd yn Llyfr
Coch Hergest a llawysgrif Peniarth 19", hynny yw, o'r bymthegfed ganrif ...

 

"... mympwy gramadegwyr yw mynnu mai chwe blynedd sydd yn 'gywir'," meddai
Peter gan ladd ar T J Morgan am alw'r ffurf yn 'llygriad tafodieithol', ac
yn nodyn 1[d] ar td 6 mae'n dwweud: "Arwydd bod cydweddiad yn dal ar waith
yw bod y treigliad wedi ymledu'n ddiweddar i'r ffurfiau tair mlwydd oed,
tair mlynedd a pedair mlwydd, pedair mlynedd." 

 

Y cwestiwn sy'n codi wedyn yw pryd y caiff cydweddiad ar lafar ei ystyried
yn 'ddatblygiad derbyniol' gan ramadegwyr ...

 

Berwyn


2011/1/17 Jones,Sylvia Prys <[log in to unmask]>

Blynedd.

Eldred Bet wrote:



Helo bawb

 
P’un sy’n gywir

 
73 blynedd neu 73 mlynedd?

 
Diolch ymlaen llaw am eich cymorth.

 
Bet

 
Bet Eldred

Uwch Gyfieithydd - Senior Translator

Uned Gyfieithu - Translation Unit

Heddlu Dyfed Powys Police

101 Est/Ext 6558

Mewnol/Internal 23175

[log in to unmask]
<mailto:[log in to unmask]> 



 
 
E-MAIL CONFIDENTIALITY STATEMENT

This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view
of Dyfed-Powys Police. It is intended only for the person or entity named
above. If you have received this e-mail in error please notify the
originator and erase this e-mail from your system. If you are not the
intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to
the intended recipient, you are hereby notified that any use, review,
dissemination, distribution or copying of the e-mail is strictly prohibited.
This e-mail and any files transmitted within it have been checked for all
known viruses. The recipient should still check the e-mail and any
attachments for the presence of viruses, as Dyfed-Powys Police accepts no
liability for any damage caused by any virus transmitted by this e-mail.

DATGANIAD CYFRINACHEDD E BOST

Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o
angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Dyfed-Powys. Bwriedir yr e-bost ar
gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn
trwy gamgymeriad, dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich
system os gwelwch yn dda. Os na'i fwriadwyd ar eich cyfer chi ac nid chi
yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd
bwriadedig, fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu,
lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif. Archwiliwyd yr
e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef am firws. Serch hynny,
dylai'r derbynnydd hefyd archwilio'r e-bost a'r ffeiliau sydd ynghlwm am
firws oherwydd nid yw Heddlu Dyfed Powys yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw
ddifrod a achosir gan unrhyw firws a drosglwyddir trwy gyfrwng yr e-bost
hwn.

* Dyfed Powys Police – the lowest levels of recorded crime and highest total
detection rate across the whole of England and Wales. *

*Heddlu Dyfed Powys – y lefelau isaf o droseddau a recordiwyd a’r gyfradd
ddatrys uchelaf ar draws Cymru a Lloegr gyfan.*

 



-- 
Dr Sylvia Prys Jones    01248 382036  <[log in to unmask]>

Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University

 

  _____  

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 10.0.1191 / Virus Database: 1435/3386 - Release Date: 01/17/11