Print

Print


Os ydi rhywun yn bod yn bedantig iawn - mae'r ateb yn fama Megan, ond 'blaw bod rhywun yn gogydd o fri - dw i ddim yn gweld bod gwahanaieth mawr.

 

http://whatscookingamerica.net/Information/PoachingSimmeringBoiling.htm

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Megan Tomos
Anfonwyd/Sent: 17 Ionawr 2011 16:46
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Y Fwydlen!!

 


 Be ydi'r gwhaniaeth rhwng "poach" a "simmer"?  Mud ferwi ddwedwn i'n naturiol am "simmer" a rhyw ferwi'n ysgafn ydi "poach" hefyd neu fe chwalith yr ŵy!!!
 
Megan


Date: Mon, 17 Jan 2011 16:08:49 +0000
From: [log in to unmask]
Subject: Re: Y Fwydlen!!
To: [log in to unmask]

Tybed a fyddai rhywbeth fel suo-ferwi yn cyfleu 'poach' ?

 

Ac rydw i'n credu bod hufen tew yn swnio'n well na hufen tolch.

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Angharad Evans

To: [log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Monday, January 17, 2011 3:01 PM

Subject: Y Fwydlen!!

 

Fi  eto!

 

Yn gyntaf, diolch yn fawr i Meinir, Carolyn, Meleri, Elin a Nia am eich cymorth!

 

Rwyf wedi chwilota am y termau ond ma rhai pethau sy'n achosi cymhlethdod o hyd! 

 Rwy'n hy iawn, ond rwyf wedi atodi'r fwydlen gyda'r hyn rwyf wedi medru gwneud, mae'r gweddill dal yn achosi problem!  Tybed a fyddai rhai ohonoch yn ddigon caredig i edrych arni a cynnig ambell awgrym fan hyn a fan draw?

 

Diolch, diolch ymlaen llaw am unrhyw gymorth (eto!)

 

Cofion

 

Angharad