Os ydi rhywun yn bod yn bedantig iawn - mae'r ateb yn fama Megan, ond 'blaw bod rhywun yn gogydd o fri - dw i ddim yn gweld bod gwahanaieth mawr. http://whatscookingamerica.net/Information/PoachingSimmeringBoiling.htm _____ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Megan Tomos Anfonwyd/Sent: 17 Ionawr 2011 16:46 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: Y Fwydlen!! Be ydi'r gwhaniaeth rhwng "poach" a "simmer"? Mud ferwi ddwedwn i'n naturiol am "simmer" a rhyw ferwi'n ysgafn ydi "poach" hefyd neu fe chwalith yr ŵy!!! Megan _____ Date: Mon, 17 Jan 2011 16:08:49 +0000 From: [log in to unmask] Subject: Re: Y Fwydlen!! To: [log in to unmask] Tybed a fyddai rhywbeth fel suo-ferwi yn cyfleu 'poach' ? Ac rydw i'n credu bod hufen tew yn swnio'n well na hufen tolch. ----- Original Message ----- From: Angharad Evans <mailto:[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Monday, January 17, 2011 3:01 PM Subject: Y Fwydlen!! Fi eto! Yn gyntaf, diolch yn fawr i Meinir, Carolyn, Meleri, Elin a Nia am eich cymorth! Rwyf wedi chwilota am y termau ond ma rhai pethau sy'n achosi cymhlethdod o hyd! Rwy'n hy iawn, ond rwyf wedi atodi'r fwydlen gyda'r hyn rwyf wedi medru gwneud, mae'r gweddill dal yn achosi problem! Tybed a fyddai rhai ohonoch yn ddigon caredig i edrych arni a cynnig ambell awgrym fan hyn a fan draw? Diolch, diolch ymlaen llaw am unrhyw gymorth (eto!) Cofion Angharad