Mae rhai o gynhyrchwyr brandi Sbaen yn defnyddio hen gasgenni sieri i storio'r brandi (i wella'r blas, am wn i). Efallai bod Sherrywood yn cyfeirio at wisgi sydd wedi'i storio mewn hen gasgenni sieri.
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Carolyn
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Monday, January 17, 2011 11:20 PM
Subject: ATB: Y Fwydlen!!

Pob cydymdeimlad Angharad! Mae bwydlenni fel hyn yn erchyll i'w cyfieithu.

 

Curo hufen (neu wyn ŵy) fel rheol yw ystyr Mousseline - ond gan mai gair Ffrangeg ydyw, wela'i ddim o'i le ar ei ddefnyddio.

Mae rhai'n dadlau mai 'cochi' yn hytrach na 'mygu' yw'r term cywir am 'smoke' yn yr ystyr yma a faswn i'n tueddu i ddefnyddio 'wedi'i' yn hytrach na 'wedi cael ei' er mwyn cwtogi chydig ar y cymal.

Yn yr un modd, swn i'n tueddu i roi 'cocos picl' (fel 'nionod picl' ) i'w gwtogi.

 

Felly awgrym ar gyfer y cynta :

Mousseline llysywen wedi'i chochi/mygu a chocos picl

 

Afal ydy Egremont russet a dw i'n cymryd mai'r afal sydd wedi'i botsio mewn whisgi.

 

Felly cynnig ar gyfer yr ail: ( dw i'n tueddu i osgoi 'wedi'i weini gyda'... eto am ei fod yn mynd yn hir ac yn gymalog):

 

gydag afal Egrempnt wedi'i botsian mewn whisgi Penderyn (sgen i ddim syniad am y Sherrywood - bosib ei fod yn cael ei gadw mewn casgenni fel hyn?) ynghyd â salad tatws a berw dŵr

 

Am 'Welsh...' dw i'n tueddu i ddefnyddio 'Cymru' yn hytrach na Chymreig - Triawd o gig oen Cymru - mae'n siwr bod y termau am y toriadau gwahanol a'r darnau eraill yma ar gael yn rhywle mewn geirfa fwyd.

 

Y pedwerydd:

 

Teisen lap gynnes (angen treiglo'r cynnes)

 

Os wyt ti'n defnyddio 'peli' mae angen treiglo hwnnw hefyd .. a pheli.

 

Gobeithio bod hyn o ryw help - ddim yn honni ei fod yn berffaith ond mae'n fan cychwyn.

 

Carolyn

 

 

 

 

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Angharad Evans
Anfonwyd/Sent: 17 Ionawr 2011 15:01
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Y Fwydlen!!

 

Fi  eto!

 

Yn gyntaf, diolch yn fawr i Meinir, Carolyn, Meleri, Elin a Nia am eich cymorth!

 

Rwyf wedi chwilota am y termau ond ma rhai pethau sy'n achosi cymhlethdod o hyd! 

 Rwy'n hy iawn, ond rwyf wedi atodi'r fwydlen gyda'r hyn rwyf wedi medru gwneud, mae'r gweddill dal yn achosi problem!  Tybed a fyddai rhai ohonoch yn ddigon caredig i edrych arni a cynnig ambell awgrym fan hyn a fan draw?

 

Diolch, diolch ymlaen llaw am unrhyw gymorth (eto!)

 

Cofion

 

Angharad