Print

Print


Gair bach ar ran 'bilain di-niwed' (harmless drudge)
Beth am edrych am atebion i rai o'r pethau yma mewn geiriadur/gramadeg cyhoeddedig?
1. Mae'r lluniwr wedi tynnu ei ddeunydd o ffynonellau mae ef/hi o leiaf yn eu hystyried yn safonol
2. Ni fyddai gwasg yn barod i gyhoeddi/i roi ei enw/i wario arian ar gyfrol oni bai ei bod yn gymeradwy
2. Bydd o leiaf un golygydd profiadol (mwy na hynny fel arfer) wedi bwrw golwg dros y testun (pwyllgorau cyfain yn achos rhai cyfrolau) a chywiro'r proflenni
3. Gellir cyfiawnhau unrhyw ddewis (ac eithrio i olygydd geiriadur arall) yn wrthrychol ar sail ffynhonnell safonol (h.y. nid mympwy personol)
4. Y broblem gyda chlustiau'r Cymro Cymraeg yw bod yr unig ba^r yr wyf i wedi'u gweld yw'r rheiny yn Sain Ffagan. 


Date: Thu, 13 Jan 2011 20:39:15 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: Re: Cywiro negeseuon
To: [log in to unmask]

Dwi'n cofio rhywun yn deud unwaith 'Dwi all for preserfio'r Welsh language a culture.' Dwn i ddim wir ym mha ffodrd mae hyn y berthnasol, ond dyna ni. Mae 'ynteu' yn swnio'n styffi - mewn dogfenna styffi dwi'n gweld bod rhaid ei ddefnyddio - mewn dogfenna llai ffurfiol - ta neu te - faswn i byth yn defnyddio neu. O, dwn i ddim, dwi'n dechra colli pen y ffordd rwan.
Anna


2011/1/13 Howard Huws <[log in to unmask]>

Anghytuno'n llwyr: mae "ynteu", yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn fyw ac yn ddefnyddiol. Hurt fyddai peidio ag arfer gair neu gystrawen oherwydd nad yw rhywrai'n eu defnyddio (am ba reswm bynnag). Pa saethau eraill hoffech chi eu bwrw allan o gawell y cyfieithydd? Waeth inni joinio'r majority ac iwsio Kymraeg really hawdd ei understandio, rhag pechu'r anwybodus!