Print

Print


Yn nyddiau'r oes a'r blaidd pan oedd Mary (Jones) a fi'n gydweithwyr, ein harfer ni fyddai cynnwys cyplysnod os byddai hynny'n ei gwneud hi'n haws darllen y testun, h.y. hepgor y cyplysnod yn achos berfenw byr ar o^l 'ail', dyweder. 'Ailddangos', felly, ond 'ail-arddangos' am fod y berfenw'n dair sillaf o hyd. Synnwyr y fawd yn hytrach na dilyn rheol gaeth ...
 
(Byddwn i'n tueddu, o hyd, i roi cyplysnod  yn 'bras-ddarllen' ac yn sicr byddai 'llithrddarllen' yn peri i mi 'lithro-ddarllen' drosto heb ei sgimio na'i sganio!)
 
Wedi hynny, daeth pobl fel Bruce a Delyth (ar sail orgraff GPC)  i'n cynghori i osgoi defnyddio cyplysnod oni bai bod rhaid. Dyw Bruce a Dafydd Glyn ddim yn rhoi cyplysnod ar o^l yr elfen 'ail' yng Ngeiriadur yr Academi ond bydd Cysill yn ein cynghori ni i wneud hynny. Pwy ddylwn i ei ddilyn, felly? Dau Lywydd er Anrhydedd Cymdeithas y Cyfieithwyr a'm hyfryd chwaer-yng-nghyfraith, neu Cysill? Oes angen dweud?!
 
Mae cystrawen yn sylw Gwenda yn codi cwestiwn sy'n clymu ag edefyn arall, sef cywiro cyfraniadau aelodau'r cylch. Barn T J Morgan oedd bod 'pam fod' yn anghywir (awgrymodd mai dylanwad 'Pam fod eira'n wyn?' oedd wedi trechu arfer Cymry Cymraeg o ddweud 'pam (y) mae/pam wyt ti/pam ydych chi'. Wn i ddim a oes unrhyw un wedi ymchwilio i weld a oedd ei farn yn gywir (cofier mai '... yn gwybod pam fod ...' yw'r gystrawen, sef ychwanegu 'pam' at 'gwybod bod/fod').
 
Ydy 'pam bod/fod' yn anghywir, felly? Fydda i ddim yn ei ddefnyddio ond mae'n 'ddatblygiad' mor
gyffredin nes bod dyn yn tueddu i'w dderbyn bron yn ddigwestiwn erbyn hyn, yn enwedig am mai datblygiad brodorol yw ef yn hytrach nag yn un sy'n amlygu dylanwad y Saesneg.
 
Y pwynt rwy'n ceisio'i wneud yw bod rhaid arfer pwyll wrth gywiro'r hyn y mae pobl eraill yn ei ysgrifennu (heb ei fai, ...). Bydd hyd yn oed y goreuon yn tybio weithiau fod eu mympwy yn rheol go bendant!
 
Berwyn
2011/1/13 Gwenda Lloyd Wallace <[log in to unmask]>
Diolch yn fawr am yr eglurhad Berwyn, ond wnewch chi egluro pam eich bod yn cynnwys y cysylltnod yn bras-ddarllen a llithr-ddarllen os gwelwch yn dda - mi fyddwn i wedi eu sillafu heb y cysylltnod ...

On Thu, 13 Jan 2011 13:11:00 +0000 , Berwyn Jones <[log in to unmask]>  wrote:
>Gan mai fi fu'n gyfrifol am gyfieithu dogfennau fersiwn 1 a 2 o'r Cwricwlwm
>Cenedlaethol, efallai y dylwn i ddweud mai ar sail cyngor rhai o Arolygwyr
>Ei Mawrhydi - T Emrys Parry ac Illtyd Lewis, yn fwy na neb - y penderfynwyd
>ar y termau a ddefnyddiwyd.
>
>Mae gen i gopi yn rhywle, rwy'n credu, o nodyn a grynhoai ddyrnaid o'r
>termau Cymraeg y dylid eu harddel wrth gyfieithu'r Cwricwlwm Cenedlaethol.
>Awdur y nodyn oedd gwas sifil yn Adran Addysg y Swyddfa Gymreig, a chan fod
>'copi i T Emrys Parry' arno, rwy'n cymryd mai ffrwyth trafodaeth rhwng y
>ddau ohonyn nhw oedd y nodyn hwnnw. Yn sicr, fe ddeddfwyd ynddo mai 'Cyfnod
>Allweddol' fyddai 'Key Stage' (yn hytrach na 'Cam Allweddol', mae'n debyg).
>
>Câi amryw o'r termau fel cipddarllen a llithr-ddarllen eu defnyddio cyn
>hynny yn adroddiadau'r Arolygwyr, wrth gwrs, a byddwn i o dro i dro yn troi
>at yr 'awduron' i ofyn eu barn am dermau o'r fath. Mae hen fersiwn deipiedig
>o'r Eirfa sy gen i ar wefan Cymdithas Cyfieithwyr Cymru yn dangos mai
>'bras-ddarllen' oedd fy nghynnig cyntaf am 'to scan', ond 'mod i wedi
>ysgrifennu 'llithr-ddarllen' ar ddiwedd y cofnod hwnnw ar o^l trafod gydag
>Illtyd Lewis, os cofia i'n iawn.
>
>Berwyn
>
>Berwyn
>
>
>
>
>2011/1/12 David Bullock <[log in to unmask]>
>
>> Cwestiwn sy gen i yn hytrach na gwrthwynebiad...
>>
>> Mae'r ffynhonnell y cyfeiriodd Meleri ati - sef y Cwricwlwm Cenedlaethol -
>> yn un gymharol awdurdodol.
>>
>> Mae dogfennau'r cwricwlwm wedi'u datblygu dros nifer o flynyddoedd gan bobl
>> sydd wrthi'n gweithio'n gyson mewn ysgolion a byd addysg. Os wy'n cofio'n
>> iawn, Yr Athro Gwyn Thomas gadeiriodd y pwyllgor gwreiddiol, ac mae statws
>> dogfennau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (yn y Gymraeg fel pwnc, o leiaf) yn
>> weddol gadarn. Ac maen nhw'n ddogfennau sy'n cylchredeg yn eang ymhlith
>> cynulleidfa Gymraeg eitha cryf, sef athrawon Cymraeg.
>>
>> A'r cwestiwn felly yw hyn: oes yna reswm digon da i wrthod cynsail fel hyn?
>>
>>
>> -----Neges Wreiddiol/Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Gwenda
>> Lloyd Wallace
>> Sent: 12 Ionawr 2011 16:22
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: ATB/RE: skim reading a scan reading
>>
>> >>Yn cytuno'n llwyr a chi Geraint. Ond gan fod cipddarllen (y Cwricwlwm
>> Cenedlaethol) a brasddarllen (Geiriadur yr Academi) ill dau yn golygu skim
>> reading, a'r awgrym gan Carolyn (diolch!) o brysddarllen am scan reading mor
>> debyg i brasddarllen, dw i am ddefnyddio cipddarllen am skim reading (dw i
>> bron iawn a drysu yma ... ). I grynhoi, er fy mwyn fy hun yn gymaint a phawb
>> arall!:
>> >
>> >skim reading = cipddarllen; scan reading = brysddarllen; detailed reading
>> = darllen manwl
>> >
>> >Unrhyw wrthwynebiad?
>> >>
>> >>Gwenda
>> >>
>> >>Wed, 12 Jan 2011 15:45:04 -0000 , Geraint Lovgreen <
>> [log in to unmask]>  wrote:
>> >>>hm - i mi mae cipddarllen (un gair, siawns) yn olreit ond dwi ddim yn
>> hoffi
>> >>>'llithrddarllen' nac yn meddwl ei fod yn debyg o ennill ei blwyf. Mae'n
>> >>>anodd ei ddweud, yn un peth!
>> >>>
>> >>>Mae brasddarllen yn air llawer gwell.
>> >>>
>> >>>Mae darllen manwl yn iawn.
>> >>>
>> >>>Geraint
>> >>>
>> >>>----- Original Message -----
>> >>>From: "Meleri H. Hughes" <[log in to unmask]>
>> >>>To: <[log in to unmask]>
>> >>>Sent: Wednesday, January 12, 2011 3:21 PM
>> >>>Subject: ATB/RE: skim reading a scan reading
>> >>>
>> >>>
>> >>>> Dyma'r termau a ddefnyddir yn y Cwricwlwm Cenedlaethol i ysgolion:
>> >>>> Skim - cip ddarllen
>> >>>> Scan - llithr ddarllen
>> >>>> Detailed reading - darllen yn fanwl
>> >>>>
>> >>>> Meleri
>> >>>>
>> >>>>
>> >>>>
>> >>>> -----Neges Wreiddiol/Original Message-----
>> >>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary
>> >>>> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of
>> Gwenda
>> >>>> Lloyd Wallace
>> >>>> Sent: 12 January 2011 15:15
>> >>>> To: [log in to unmask]
>> >>>> Subject: skim reading a scan reading
>> >>>>
>> >>>>>Dw i'n cyfieithu disgrifiadau ar ffyrdd gwahanol o ddarllen, sef 'skim
>> >>>>>reading', 'scan reading' a 'detailed reading'. Mae Geiriadur yr
>> Academi yn
>> >>>>>rhoi 'brasddarllen' am skim reading, a 'darllen manwl' fyddwn i'n ei
>> >>>>>ddefnyddio am detailed reading. A fyddai 'sganddarllen' yn iawn am
>> 'scan
>> >>>>>reading' neu a ddylwn i ddefnyddio 'bwrw golwg'?
>> >>>>>
>> >>>>>Diolch yn fawr.
>> >>>>>Gwenda
>> >>>>>--
>> >>>>>
>> >>>>>
>> >>>>>Gwenda Lloyd Wallace
>> >>>>>Cyfieithydd/Translator
>> >>>>>Troed-y-rhiw
>> >>>>>Cefn-llwyd
>> >>>>>Aberystwyth
>> >>>>>Ceredigion
>> >>>>>Cymru/Wales
>> >>>>>SY23 3HX
>> >>>>>
>> >>>>>Ffon/Tel: 01970 880817
>> >>>> --
>> >>>>
>> >>>>
>> >>>> Gwenda Lloyd Wallace
>> >>>> Cyfieithydd/Translator
>> >>>> Troed-y-rhiw
>> >>>> Cefn-llwyd
>> >>>> Aberystwyth
>> >>>> Ceredigion
>> >>>> Cymru/Wales
>> >>>> SY23 3HX
>> >>>>
>> >>>> Ffon/Tel: 01970 880817
>> >>>>
>> >>>>
>> >>>> -------------------------------------------------------------
>> >>>> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe'i
>> bwriedir ar
>> >>>> gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth
>> freintiedig. Os
>> >>>> yw wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad ni ellwch ei gopio, ei
>> ddosbarthu
>> >>>> na'i ddangos i unrhyw un arall a dylech gysylltu �'r anfonwr ar
>> unwaith.
>> >>>> Mae unrhyw gynnwys nad yw'n ymwneud � busnes swyddogol y corff sy'n
>> anfon
>> >>>> yr e-bost yn bersonol i'r awdur.
>> >>>> -------------------------------------------------------------
>> >>>> This email and any attachments are confidential and intended for the
>> named
>> >>>> recipient only. The content may contain privileged information. If it
>> has
>> >>>> reached you by mistake, you should not copy, distribute or show the
>> >>>> content to anyone but should contact the sender at once.
>> >>>> Any content that is not pertinent to the official business of the
>> >>>> organisation is personal to the author.
>> >>>> -------------------------------------------------------------
>> >>>> Arbedwch bapur, ynni ac arian - Peidiwch argraffu'r neges yma oni bai
>> ei
>> >>>> bod yn hollol angenrheidiol.
>> >>>> Save paper, energy and money - Do not print this message unless it is
>> >>>> absolutely necessary.
>> >>>>
>> >>>>
>> >>
>> >>
>>
>> --
>>
>>
>> Gwenda Lloyd Wallace
>> Cyfieithydd/Translator
>> Troed-y-rhiw
>> Cefn-llwyd
>> Aberystwyth
>> Ceredigion
>> Cymru/Wales
>> SY23 3HX
>>
>> Ffon/Tel: 01970 880817
>>



--


Gwenda Lloyd Wallace
Cyfieithydd/Translator
Troed-y-rhiw
Cefn-llwyd
Aberystwyth
Ceredigion
Cymru/Wales
SY23 3HX

Ffon/Tel: 01970 880817