Anodd gwybod ar y we pryd mae rhywun yn tynnu coes - ond roedd ei neges gynta ar y pwnc yn eitha, ym, pendant - o styried bod y mater yn un mor ddyrys! Bosib bod 'na dwtsh o eironi yn neges Eleri hefyd! Sori am sarnu'ch sbort chi! Steffan - Fi'n credu bo ni'n haeddu gwell na Pizza Hut! Siân On 13 Ion 2011, at 15:48, Alun, Steffan wrote: > Cymryd mai tynnu coes roedd Eurwyn, o ystyried y cyd-destun. Wrth > gwrs, mae'n amhosib ysgrifennu neges ddigon gwallgof i bawb allu > gweld mai jôc ydy hi. Gormod o bobl wallgof yn y byd. > > -----Original Message----- > From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf > Of Sian Roberts > Sent: 13 January 2011 15:46 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: Anrheg Pen-blwydd > > Eurwyn > > Mae 'na'r fath beth â chyweiriau iaith. Mae Eleri yn ymwybodol o'r > cyweiriau hyn. > > Siân > > > On 13 Ion 2011, at 15:32, Eurwyn Pierce Jones wrote: > >> '... bobl SYDD DDIM yn ...' = idiom Saesneg! >> Yn y Gymraeg: '... bobl NAD YDYN nhw'n ...' >> >> Eurwyn >> >> -----Original Message----- >> From: Discussion of Welsh language technical terminology and >> vocabulary >> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eleri >> Lovgreen >> Sent: 13 January 2011 11:28 >> To: [log in to unmask] >> Subject: Re: Anrhag ben-blwydd >> >> Clywch, clywch! >> >> Dwinne'n gwbod am bobl sydd ddim yn cysylltu efo'r cylch am eu bod >> nhw ofn >> gwneud camgymeriad gramadegol. >> >> Ffon symudol: 07900061784 >> ----- Original Message ----- >> From: "Rhian Huws" <[log in to unmask]> >> To: <[log in to unmask]> >> Sent: Thursday, January 13, 2011 11:20 AM >> Subject: Re: Anrhag ben-blwydd >> >> >> Yn bersonol, dwi ddim yn teimlo ei bod hi'n briodol cywiro iaith >> pobl mewn >> fforwm gyhoeddus fel hyn - heblaw eich bod yn adnabod eich gilydd yn >> arbennig o dda wrth gwrs! Os ydy aelodau'r cylch yn mynnu cywiro ei >> gilydd, >> yna byddwch yn sensitif i deimladau pobl da chi! Mae na FFORDD o >> ddweud >> pethau, ac weithiau gall tôn ambell e-bost fod braidd yn anffodus >> ac yn >> feirniadol yn hytrach nag yn adeiladol. Helpu ein gilydd yw'r nod, >> does >> bosibl! >> >> Rhian >> >> -----Original Message----- >> From: Discussion of Welsh language technical terminology and >> vocabulary >> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Howard Huws >> Sent: 13 January 2011 11:08 >> To: [log in to unmask] >> Subject: Anrhag ben-blwydd >> >> Ar lafar neu ar ddu a gwyn, dylem geisio'n gorau: iaith yw ein ffon >> fara ni, >> >> ac os na allwn ninnau gynnal safon, a'n helpo ni, ac a helpo'r rhai >> yr ydym >> yn eu gwasanaethu! Parthed aelodau newydd, dywedwn eto na ddylai'r >> sawl sy'n >> >> ofni beirniadaeth deg fentro gofyn cyflog am wneud y gwaith. Wir, >> yr ydym >> fel petaem ni'n esgusodi Cymraeg gwael lle nad esgusodem Saesneg >> gwael, >> oherwydd bod Cymraeg cymaint o bobl cyn saled. Nid llacio'r safon >> yw'r ateb, >> >> ond hyrwyddo defnyddio Cymraeg rhywiog, pob cyfle. >> >> Am y ddadl "Dwi'm yn defnyddio 'ynteu', felly mae wedi darfod >> amdano", mae >> lle i ddiolch nad unigolion sy'n pennu tynged geiriau. Gwyn fy myd >> pe gallwn >> >> innau wahardd defnyddio llediaith tebyg i "marw allan", chwedl >> gohebydd >> arall ar y pwnc hwn.