'... bobl SYDD DDIM yn ...' = idiom Saesneg! Yn y Gymraeg: '... bobl NAD YDYN nhw'n ...' Eurwyn -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eleri Lovgreen Sent: 13 January 2011 11:28 To: [log in to unmask] Subject: Re: Anrhag ben-blwydd Clywch, clywch! Dwinne'n gwbod am bobl sydd ddim yn cysylltu efo'r cylch am eu bod nhw ofn gwneud camgymeriad gramadegol. Ffon symudol: 07900061784 ----- Original Message ----- From: "Rhian Huws" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Thursday, January 13, 2011 11:20 AM Subject: Re: Anrhag ben-blwydd Yn bersonol, dwi ddim yn teimlo ei bod hi'n briodol cywiro iaith pobl mewn fforwm gyhoeddus fel hyn - heblaw eich bod yn adnabod eich gilydd yn arbennig o dda wrth gwrs! Os ydy aelodau'r cylch yn mynnu cywiro ei gilydd, yna byddwch yn sensitif i deimladau pobl da chi! Mae na FFORDD o ddweud pethau, ac weithiau gall tôn ambell e-bost fod braidd yn anffodus ac yn feirniadol yn hytrach nag yn adeiladol. Helpu ein gilydd yw'r nod, does bosibl! Rhian -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Howard Huws Sent: 13 January 2011 11:08 To: [log in to unmask] Subject: Anrhag ben-blwydd Ar lafar neu ar ddu a gwyn, dylem geisio'n gorau: iaith yw ein ffon fara ni, ac os na allwn ninnau gynnal safon, a'n helpo ni, ac a helpo'r rhai yr ydym yn eu gwasanaethu! Parthed aelodau newydd, dywedwn eto na ddylai’r sawl sy'n ofni beirniadaeth deg fentro gofyn cyflog am wneud y gwaith. Wir, yr ydym fel petaem ni'n esgusodi Cymraeg gwael lle nad esgusodem Saesneg gwael, oherwydd bod Cymraeg cymaint o bobl cyn saled. Nid llacio'r safon yw'r ateb, ond hyrwyddo defnyddio Cymraeg rhywiog, pob cyfle. Am y ddadl "Dwi'm yn defnyddio 'ynteu', felly mae wedi darfod amdano", mae lle i ddiolch nad unigolion sy'n pennu tynged geiriau. Gwyn fy myd pe gallwn innau wahardd defnyddio llediaith tebyg i "marw allan", chwedl gohebydd arall ar y pwnc hwn.