O neges gan Andrew Hawke o Eiriadur Prifysgol Cymru ar 8.10.10 "Rydym wedi dewis 'ar lein' a 'pen blwydd' (yn gam neu'n gymwys), gan geisio osgoi'r cyplysnod ond pan fydd rhaid ei gynnwys." Siân On 13 Ion 2011, at 14:06, Gwenda Lloyd Wallace wrote: > pen blwydd sy gan D. Geraint Lewis yn 'Geiriadur Gomer i'r Ifanc' > ac mae pen-blwydd a pen blwydd yn Geiriadur yr Academi ... > > On Thu, 13 Jan 2011 13:14:44 -0000 , Geraint Lovgreen > <[log in to unmask]> wrote: >> Cytuno'n llwyr efo hyn (heblaw fy mod wedi penderfynu bod anrheg >> yn wrywaidd ac felly'n osgoi'r broblem wreiddiol yn gyfan gwbl) >> (ac mai penblwydd ydi'r gair ac nid pen-blwydd!) >> >> Geraint >> >> ----- Original Message ----- >> From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]> >> To: <[log in to unmask]> >> Sent: Thursday, January 13, 2011 1:07 PM >> Subject: Re: ATB: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd? >> >> >> Yn bersonol, anrheg ben-blwydd, ffrog briodas, Cymdeithas Bêl-droed, >> Neuadd Ddawns a gardd gwrw sy'n dod yn naturiol i mi. >> >> Mae gwahaniaeth rhwng Gorsaf Fysiau Caerfyrddin a Gorsaf Bysiau >> Caerfyrddin >> >> Ddoe ddiwetha, fe ddes i ar draws enghraifft lle'r oedd dwy swyddfa >> yn yr un adran yn gwahaniaethu - un yn dweud "Adran Gynllunio" a'r >> llall yn dweud "Adran Cynllunio". Rwy'n deall y rhesymeg dros y ddau >> ond byddwn yn dewis y cyntaf yn reddfol. >> >> On 13 Ion 2011, at 12:54, Jones,Sylvia Prys wrote: >> >>> Carolyn wrote: >>>> Os meddyliwch chi am 'anrheg dda' ac 'anrheg p/ben-blwydd' - i fi, >>>> mae 'na wahaniaeth bach rhwng y gwaith mae'r 'da' yn ei wneud a'r >>>> gwaith mae'r 'pen-blwydd' yn ei wneud. Ond bosib mai'r ffaith mai >>>> enw yw pen-blwydd sy'n gyfrifol am greu'r argraff honno a dw i'n >>>> barod i dderbyn barn rhai sy'n gwybod yn well. Mae'n amlwg bod >>>> cryn ansicrwydd ynglŷn â hyn - does ond angen edrych ar enwau >>>> adrannau cyrff cyhoeddus Cymru/Prifysgolion ac ati i weld nad oes >>>> ateb syml. >>>> Carolyn >>>> ------------------------------------------------------------------- >>>> -- >>>> --- >>> Mae hynny'n berffaith wir, Carolyn. Does yna ddim cysondeb yn y >>> sefydliad yma, rhwng pethau fel Swyddfa Gyllid / Swyddfa Cyllid, >>> Credaf mai'r ail sy'n gywir (nes ati?) Ond yn bersonol dw i ddim yn >>> teimlo bod llawer o ots. Mae pobl yn defnyddio'r glust i dreiglo, >>> heb fynd ati i ddadansoddi ac felly fydd yna ddim cysondeb llwyr. >>> -- >>> Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]> >>> >>> Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit >>> Canolfan Bedwyr >>> Prifysgol Bangor/Bangor University > > > > -- > > > Gwenda Lloyd Wallace > Cyfieithydd/Translator > Troed-y-rhiw > Cefn-llwyd > Aberystwyth > Ceredigion > Cymru/Wales > SY23 3HX > > Ffon/Tel: 01970 880817