Tydi hi’n gret mynd yn hy^n? - ‘dydy rhywun ddim yn teimlo hanner mor ddrwg (neu "meindio hanner cymaint", taswn i’n ysgrifennu’n at ffrind) ynghylch cael ei gywiro!  Ond mae’n haws imi hefyd - wedi dysgu Cymraeg, ‘rwy’n *arfer* cael fy nghywiro, ac yn trio bod yn ddiolchgar (a hefyd yn rhedeg y rhan fwyaf o’m negeseuon trwy Cysill).

 

Ac i godi calonnau pawb: ‘rwyf wedi methu’r arholiad cyflawn o’r Saesneg i’r Gymraeg deirgwaith (hyd yn hyn).  O leiaf mae hynny’n help imi gydymdeimlo a^ phobl a deall eu problemau pan fydda i’n marcio eu papurau i’r Saesneg – ond gobeithio nad yw hynny’n golygu fy mod i’n marcio’n llai gofalus.

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 13 January 2011 11:41
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?

 

Sori Ann, ond mae'r eironi yn hyfryd...

 

"...fel petai ei bod yn gywir...."  ;-)

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Ann Corkett

To: [log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Thursday, January 13, 2011 10:46 AM

Subject: Re: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?

 

Dim amser i ddarllen pob sylw’n iawn, heb son am eu trosglwyddo i Bruce, cyn inni ddiflannu am ychydig – ond mi wna i.

 

Fi sydd ar fai am deipio sylwadau Bruce heb awgrymu y dylid cywiro iaith rhywun yn breifat – fel ‘rwy’n ceisio ei wneud fel arfer.  Gormod o frys.

 

Ar y llaw arall, weithiau mae’n ddefnyddiol gwneud sylw cyhoeddus, yn lle bod(?) pob enghraifft o wall yn cael sefyll yn yr archif, fel petai ei bod yn gywir, a neb yn gwybod am y cywiro na’r rhesymeg y tu ol iddo.

 

Mae ‘na wahaniaeth rhwng cywair a chywirdeb. Dim ond cymaint a chymaint o gydymdeimlad sydd gen i a^ phobl sy’n dweud “fel hyn ‘rwy’n ysgrifennu at y Cylch, ond ‘rwy’n fwy gofalus wrth weithio” – onid ymarfer ysgrifennu’n gywir sy’n ei gwneud hi’n haws ysgrifennu’n gywir yn reddfol yn y gwaith. “DWN I DDIM OS” yw hynny’n wir!

Saethoch fi i lawr os mynnwch! ‘Rwy’n ysgrifennu ar frys a heb feddwl ryw lawer. Fydda i ddim yn cael darllen eich sylwadau am rai dyddiau!

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eirian Youngman
Sent: 13 January 2011 10:32
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?

 

Clywch clywch

 

Eirian

 

 


Date: Thu, 13 Jan 2011 10:21:52 +0000
From: [log in to unmask]
Subject: Re: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?
To: [log in to unmask]

Diolch i bawb am eu hymatebion.

 

Fi’n cytuno â Bruce yn yr achos yma, bod y gair ‘pen-blwydd’ YN goleddfu’r gair ‘anrheg’ ac y dylid ei dreiglo yn y cyd-destun hwn. Cyfeiriais eisoes at y ffaith bod enghreifftiau yng Ngeiriadur yr Academi o anrheg briodas a gwisg briodas. Nid y genidol sydd fan hyn yn fy marn i, nid yw’r anrheg yn perthyn i’r briodas. Swyddogaeth ansoddeiriol sydd i’r gair priodas a phen-blwydd yn y cyd-destun hwn.

 

Yn anffodus, mae’n debyg bod rhai yn ceisio osgoi treiglo cymaint â phosib, gan weld y genidol ym mhob man. Ac mae sawl enghraifft lle gallwch roi ‘ar gyfer’ (prawf honedig y genidol!) rhwng dau enw hyd yn oed pan fo’r ail enw yn bendant yn ansoddeiriol.

 

O ystyried pryd mae defnyddio ‘neu’ ac ‘ynte’, mae Steffan yn iawn na ddylid cywiro iaith pobl ar y cylch. Yn aml, mae pobl yn sgwennu ymholiadau ar frys heb fynd nôl dros y gwaith i’w fireinio hyd at safon gwaith academaidd. Yr ymholiad ei hun sy’n bwysig, nid iaith yr ymholiad. Hyd yn oed os yw’r defnydd o ‘ynte’ yn fwy cywir na ‘neu’ yn y cyd-destun dan sylw, ydy’n bosib bod y gair ‘ynte’ wedi cael ei ddydd a’i fod yn marw allan yn raddol. Nid wy’n sylwi ar gryn ddefnydd arno erbyn hyn.

 

Paul   

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 13 January 2011 09:59
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?

 

Cytuno Eurwyn - mae'n codi o hyd ac yn creu anghysondeb mawr. Mae'r ffin yn aml yn niwlog rhwng diffinio a goleddfu ac mae'r anghysondeb yn fy mhoeni i fwy na'r treiglo neu beidio.  Mae enwau swyddogol adrannau/swyddfeydd/strategaethau ac ati i gyd yn amrywio - rhai'n treiglo, rhai ddim ac mae'n edrych yn rhyfedd iawn pan fydd yr anghysondeb yma'n digwydd o fewn dogfen, neu o fewn brawddeg weithiau e.e. Term Cymru : Strategaeth Plant/Strategaeth Dai.

 

Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Eurwyn Pierce Jones
Anfonwyd/Sent: 12 Ionawr 2011 18:05
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?

 

Er bod ‘pen-blwydd’ yn diffinio cyd-destun yr ‘anrheg’, dydy ‘pen-blwydd’ ddim yn goleddfu’r enw ‘anrheg’ yn ansoddeiriol; ac felly ni ddylid treiglo’n feddal - fel y bydd angen yn gyffredin yn achos ansoddair a fo’n dilyn enw benywaidd.  Dyma gam-gymeriad sydd i’w ganfod yn gyson, ac mae enghreifftiau lu ohonynt i’w gweld yn amlwg o amgylch y lle.  Un arall a welais i’r bore yma oedd ‘Swyddfa Yrfaoedd’ yn hytrach na’r teitl cywir: Swyddfa Gyrfaoedd (am yr un rheswm ag uchod).

 

Eurwyn  

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Vaughan-Thomas, Paul
Sent: 12 January 2011 12:35
To: [log in to unmask]
Subject: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?

 

All rhywun fwrw goleuni ar hyn plîs? Beth yw’r cyfieithiad cywir am ‘birthday present’? Rwy am roi ‘anrheg ben-blwydd’ - mae anrheg yn fenywaidd wrth gwrs ac mae swyddogaeth ansoddeiriol i ‘pen-blwydd’ fan hyn. Mae hefyd yn dilyn yr un patrwm ag ‘anrheg briodas’, ‘teisen briodas’ ac ati. Mae amheuaeth oherwydd ei fod yn swnio’n od treiglo’r gair pen-blwydd ond a oes unrhyw sail dros beidio â’i threiglo?

 

Rwy’n aros yn ddisgwylgar am unrhyw ymateb

Diolch

Paul

 

Paul Vaughan Thomas

Cyfieithydd Translator

Canolfan Gymraeg San Helen St Helen’s Welsh Centre

(01792) 462067

 


******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address:
[log in to unmask]

All communications sent to or from the Council may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]

Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi a/neu fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol
*******************************************************************


******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address:
[log in to unmask]

All communications sent to or from the Council may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]

Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi a/neu fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol
*******************************************************************


No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 10.0.1191 / Virus Database: 1435/3376 - Release Date: 01/12/11


No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 10.0.1191 / Virus Database: 1435/3376 - Release Date: 01/12/11