Print

Print

Ha ha hwre!

Anna

2011/1/13 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>

>  Mae Eleri newydd ddeud wrtha'i ei bod hi'n ansicr ai gair benywaidd ynteu
> gwrywaidd oedd 'anrheg'. Ac yn wir i chi, yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru
> mae'n e.b/g.
>
> Dim problem felly! Triniwch o fel gair gwrywaidd.
>
> Geraint
>
> ----- Original Message -----
> *From:* Saunders, Tim <[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> *Sent:* Thursday, January 13, 2011 11:41 AM
> *Subject:* Re: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?
>
> Mae siaradwyr sawl iaith yn mwynhau cywiro'i gilydd - y Ffrangeg, er
> enghraifft. Ac roedd rhaglen radio yn Iwerddon ers talwm lle byddai pobl yn
> trafod pethau megis cyflwr cyfarchiadol yr enw *Nóra*.
>
> Yn iach,
>
>
>
> *Tim*
> **
> **
> *Tim Saunders*
> *Cyfieithydd* Translator
> *Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf* Rhondda Cynon Taf County
> Borough Council
>
>
>  ------------------------------
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Rhian Huws
> *Sent:* 13 January 2011 11:09
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* Re: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?
>
>  Fel ‘na dwinna wedi bod yn meddwl ar hyd y blynyddoedd!
>
> Pam ma’n rhaid i’r Gymraeg fod mor blincin cymhleth?! Dwi’n siwr nad oes
> iaith arall yn y byd lle ceir cymaint o anghytuno ynghylch materion
> gramadegol!
>
> Rhian
>
>
>
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Carolyn
> *Sent:* 13 January 2011 10:50
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* ATB: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?
>
>
>
> Os meddyliwch chi am 'anrheg dda' ac 'anrheg p/ben-blwydd' - i fi, mae 'na
> wahaniaeth bach rhwng y gwaith mae'r 'da' yn ei wneud a'r gwaith mae'r
> 'pen-blwydd' yn ei wneud.  Ond bosib mai'r ffaith mai enw yw pen-blwydd sy'n
> gyfrifol am greu'r argraff honno a dw i'n barod i dderbyn barn rhai sy'n
> gwybod yn well. Mae'n amlwg bod cryn ansicrwydd ynglŷn â hyn - does ond
> angen edrych ar enwau adrannau cyrff cyhoeddus Cymru/Prifysgolion ac ati i
> weld nad oes ateb syml.
>
> Carolyn
>  ------------------------------
>
> *Oddi wrth/From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran *Rhian
> Huws
> *Anfonwyd/Sent:* 13 Ionawr 2011 10:35
> *At/To:* [log in to unmask]
> *Pwnc/Subject:* Re: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?
>
>
>
> Oes ‘na awgrym felly bod ‘anrheg priodas’ yn *anghywir*, ynteu a oes dadl
> dros ddefnyddio’r naill neu’r llall?
>
>
>
> Rhian
>
>
>
>
>
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Vaughan-Thomas,
> Paul
> *Sent:* 13 January 2011 10:22
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* Re: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?
>
>
>
> Diolch i bawb am eu hymatebion.
>
>
>
> Fi’n cytuno â Bruce yn yr achos yma, bod y gair ‘pen-blwydd’ YN goleddfu’r
> gair ‘anrheg’ ac y dylid ei dreiglo yn y cyd-destun hwn. Cyfeiriais eisoes
> at y ffaith bod enghreifftiau yng Ngeiriadur yr Academi o anrheg briodas a
> gwisg briodas. Nid y genidol sydd fan hyn yn fy marn i, nid yw’r anrheg yn
> perthyn i’r briodas. Swyddogaeth ansoddeiriol sydd i’r gair priodas a
> phen-blwydd yn y cyd-destun hwn.
>
>
>
> Yn anffodus, mae’n debyg bod rhai yn ceisio osgoi treiglo cymaint â phosib,
> gan weld y genidol ym mhob man. Ac mae sawl enghraifft lle gallwch roi ‘ar
> gyfer’ (prawf honedig y genidol!) rhwng dau enw hyd yn oed pan fo’r ail enw
> yn bendant yn ansoddeiriol.
>
>
>
> O ystyried pryd mae defnyddio ‘neu’ ac ‘ynte’, mae Steffan yn iawn na
> ddylid cywiro iaith pobl ar y cylch. Yn aml, mae pobl yn sgwennu ymholiadau
> ar frys heb fynd nôl dros y gwaith i’w fireinio hyd at safon gwaith
> academaidd. Yr ymholiad ei hun sy’n bwysig, nid *iaith* yr ymholiad. Hyd
> yn oed os yw’r defnydd o ‘ynte’ yn fwy cywir na ‘neu’ yn y cyd-destun dan
> sylw, ydy’n bosib bod y gair ‘ynte’ wedi cael ei ddydd a’i fod yn marw allan
> yn raddol. Nid wy’n sylwi ar gryn ddefnydd arno erbyn hyn.
>
>
>
> Paul
>
>
>  ------------------------------
>
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Carolyn
> *Sent:* 13 January 2011 09:59
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* ATB: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?
>
>
>
> Cytuno Eurwyn - mae'n codi o hyd ac yn creu anghysondeb mawr. Mae'r ffin yn
> aml yn niwlog rhwng diffinio a goleddfu ac mae'r anghysondeb yn fy mhoeni i
> fwy na'r treiglo neu beidio.  Mae enwau swyddogol
> adrannau/swyddfeydd/strategaethau ac ati i gyd yn amrywio - rhai'n treiglo,
> rhai ddim ac mae'n edrych yn rhyfedd iawn pan fydd yr anghysondeb yma'n
> digwydd o fewn dogfen, neu o fewn brawddeg weithiau e.e. Term Cymru :
> Strategaeth Plant/Strategaeth Dai.
>
>
>
> Carolyn
>
>
>  ------------------------------
>
> *Oddi wrth/From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran *Eurwyn
> Pierce Jones
> *Anfonwyd/Sent:* 12 Ionawr 2011 18:05
> *At/To:* [log in to unmask]
> *Pwnc/Subject:* Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?
>
>
>
> Er bod ‘pen-blwydd’ yn *diffinio cyd-destun* yr ‘anrheg’, dydy
> ‘pen-blwydd’ *ddim yn goleddfu’r enw* ‘anrheg’ yn ansoddeiriol; ac felly
> ni ddylid treiglo’n feddal - fel y bydd angen yn gyffredin yn achos
> ansoddair a fo’n dilyn enw benywaidd.  Dyma gam-gymeriad sydd i’w ganfod yn
> gyson, ac mae enghreifftiau lu ohonynt i’w gweld yn amlwg o amgylch y lle.
> Un arall a welais i’r bore yma oedd ‘Swyddfa Yrfaoedd’ yn hytrach na’r teitl
> cywir: Swyddfa Gyrfaoedd (am yr un rheswm ag uchod).
>
>
>
> Eurwyn
>
>
>  ------------------------------
>
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Vaughan-Thomas,
> Paul
> *Sent:* 12 January 2011 12:35
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?
>
>
>
> All rhywun fwrw goleuni ar hyn plîs? Beth yw’r cyfieithiad cywir am
> ‘birthday present’? Rwy am roi ‘anrheg ben-blwydd’ - mae anrheg yn fenywaidd
> wrth gwrs ac mae swyddogaeth ansoddeiriol i ‘pen-blwydd’ fan hyn. Mae hefyd
> yn dilyn yr un patrwm ag ‘anrheg briodas’, ‘teisen briodas’ ac ati. Mae
> amheuaeth oherwydd ei fod yn swnio’n od treiglo’r gair pen-blwydd ond a oes
> unrhyw sail dros beidio â’i threiglo?
>
>
>
> Rwy’n aros yn ddisgwylgar am unrhyw ymateb
>
> Diolch
>
> Paul
>
>
>
> *Paul Vaughan Thomas*
>
> *Cyfieithydd **Translator*
>
> *Canolfan Gymraeg San Helen **St Helen’s Welsh Centre*
>
> *(01792) 462067***
>
>
>
>
> ******************************************************************
> This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended
> solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed.
> If you have received this e-mail in error, please notify the administrator
> on the following address:
> [log in to unmask]
>
> All communications sent to or from the Council may be subject to recording
> and/or monitoring in accordance with relevant legislation
>
> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol
> ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os
> ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r
> gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
> [log in to unmask]
>
> Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi
> a/neu fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol
> *******************************************************************