Print

Print



Dwi'n union yr un fath - "presant penblwydd" (nid hyd yn oed "pen-blwydd" - mae'n air deusill efo'r acen ar y goben yn y gogledd-ddwyrain pell!)
 
Ond mi fyswn i'n tueddu i feddwl mai ansoddeiriol ydio, felly "anrheg benblwydd", fel "cymdeithas dai".
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">anna gruffydd
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, January 13, 2011 11:00 AM
Subject: Re: ATB: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?

Yn yr achos yma, does gen i ddim canllaw llafar yn gymorth i glwad pa un sy'n swnio'n iawn achos ar lafar 'presant pen-blwydd' y baswn i'n ddeud yn ddieithriad, dwi'm yn meddwl mod i erioed wedi deud y gair anrheg yn fy myw! Ai tuedd Gogledd/De ydi honna dwch?

Anna

2011/1/13 Carolyn <[log in to unmask]>

Os meddyliwch chi am 'anrheg dda' ac 'anrheg p/ben-blwydd' - i fi, mae 'na wahaniaeth bach rhwng y gwaith mae'r 'da' yn ei wneud a'r gwaith mae'r 'pen-blwydd' yn ei wneud.  Ond bosib mai'r ffaith mai enw yw pen-blwydd sy'n gyfrifol am greu'r argraff honno a dw i'n barod i dderbyn barn rhai sy'n gwybod yn well. Mae'n amlwg bod cryn ansicrwydd ynglŷn â hyn - does ond angen edrych ar enwau adrannau cyrff cyhoeddus Cymru/Prifysgolion ac ati i weld nad oes ateb syml.

Carolyn


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Rhian Huws
Anfonwyd/Sent: 13 Ionawr 2011 10:35

Pwnc/Subject: Re: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?

 

Oes ‘na awgrym felly bod ‘anrheg priodas’ yn anghywir, ynteu a oes dadl dros ddefnyddio’r naill neu’r llall?

 

Rhian

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Vaughan-Thomas, Paul
Sent: 13 January 2011 10:22

Subject: Re: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?

 

Diolch i bawb am eu hymatebion.

 

Fi’n cytuno â Bruce yn yr achos yma, bod y gair ‘pen-blwydd’ YN goleddfu’r gair ‘anrheg’ ac y dylid ei dreiglo yn y cyd-destun hwn. Cyfeiriais eisoes at y ffaith bod enghreifftiau yng Ngeiriadur yr Academi o anrheg briodas a gwisg briodas. Nid y genidol sydd fan hyn yn fy marn i, nid yw’r anrheg yn perthyn i’r briodas. Swyddogaeth ansoddeiriol sydd i’r gair priodas a phen-blwydd yn y cyd-destun hwn.

 

Yn anffodus, mae’n debyg bod rhai yn ceisio osgoi treiglo cymaint â phosib, gan weld y genidol ym mhob man. Ac mae sawl enghraifft lle gallwch roi ‘ar gyfer’ (prawf honedig y genidol!) rhwng dau enw hyd yn oed pan fo’r ail enw yn bendant yn ansoddeiriol.

 

O ystyried pryd mae defnyddio ‘neu’ ac ‘ynte’, mae Steffan yn iawn na ddylid cywiro iaith pobl ar y cylch. Yn aml, mae pobl yn sgwennu ymholiadau ar frys heb fynd nôl dros y gwaith i’w fireinio hyd at safon gwaith academaidd. Yr ymholiad ei hun sy’n bwysig, nid iaith yr ymholiad. Hyd yn oed os yw’r defnydd o ‘ynte’ yn fwy cywir na ‘neu’ yn y cyd-destun dan sylw, ydy’n bosib bod y gair ‘ynte’ wedi cael ei ddydd a’i fod yn marw allan yn raddol. Nid wy’n sylwi ar gryn ddefnydd arno erbyn hyn.

 

Paul   

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 13 January 2011 09:59

Subject: ATB: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?

 

Cytuno Eurwyn - mae'n codi o hyd ac yn creu anghysondeb mawr. Mae'r ffin yn aml yn niwlog rhwng diffinio a goleddfu ac mae'r anghysondeb yn fy mhoeni i fwy na'r treiglo neu beidio.  Mae enwau swyddogol adrannau/swyddfeydd/strategaethau ac ati i gyd yn amrywio - rhai'n treiglo, rhai ddim ac mae'n edrych yn rhyfedd iawn pan fydd yr anghysondeb yma'n digwydd o fewn dogfen, neu o fewn brawddeg weithiau e.e. Term Cymru : Strategaeth Plant/Strategaeth Dai.

 

Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Eurwyn Pierce Jones
Anfonwyd/Sent: 12 Ionawr 2011 18:05
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?

 

Er bod ‘pen-blwydd’ yn diffinio cyd-destun yr ‘anrheg’, dydy ‘pen-blwydd’ ddim yn goleddfu’r enw ‘anrheg’ yn ansoddeiriol; ac felly ni ddylid treiglo’n feddal - fel y bydd angen yn gyffredin yn achos ansoddair a fo’n dilyn enw benywaidd.  Dyma gam-gymeriad sydd i’w ganfod yn gyson, ac mae enghreifftiau lu ohonynt i’w gweld yn amlwg o amgylch y lle.  Un arall a welais i’r bore yma oedd ‘Swyddfa Yrfaoedd’ yn hytrach na’r teitl cywir: Swyddfa Gyrfaoedd (am yr un rheswm ag uchod).

 

Eurwyn  

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Vaughan-Thomas, Paul
Sent: 12 January 2011 12:35
To: [log in to unmask]
Subject: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?

 

All rhywun fwrw goleuni ar hyn plîs? Beth yw’r cyfieithiad cywir am ‘birthday present’? Rwy am roi ‘anrheg ben-blwydd’ - mae anrheg yn fenywaidd wrth gwrs ac mae swyddogaeth ansoddeiriol i ‘pen-blwydd’ fan hyn. Mae hefyd yn dilyn yr un patrwm ag ‘anrheg briodas’, ‘teisen briodas’ ac ati. Mae amheuaeth oherwydd ei fod yn swnio’n od treiglo’r gair pen-blwydd ond a oes unrhyw sail dros beidio â’i threiglo?

 

Rwy’n aros yn ddisgwylgar am unrhyw ymateb

Diolch

Paul

 

Paul Vaughan Thomas

Cyfieithydd Translator

Canolfan Gymraeg San Helen St Helen’s Welsh Centre

(01792) 462067

 


******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address:
[log in to unmask]

All communications sent to or from the Council may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]

Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi a/neu fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol
*******************************************************************


******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address:
[log in to unmask]

All communications sent to or from the Council may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]

Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi a/neu fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol
*******************************************************************