Dyna sy'n dan ar fy nghroen inna - dwi'n gwbod be di'r rheol ond weithia dwi yn fy ngwaith yn penderfynu pa un ydi'r peth. (Sori, dim byd adeiladol i'w ddeud, jyst taro mhig i mewn!) Anna 2011/1/13 Carolyn <[log in to unmask]> > Cytuno Eurwyn - mae'n codi o hyd ac yn creu anghysondeb mawr. Mae'r ffin > yn aml yn niwlog rhwng diffinio a goleddfu ac mae'r anghysondeb yn fy mhoeni > i fwy na'r treiglo neu beidio. Mae enwau swyddogol > adrannau/swyddfeydd/strategaethau ac ati i gyd yn amrywio - rhai'n treiglo, > rhai ddim ac mae'n edrych yn rhyfedd iawn pan fydd yr anghysondeb yma'n > digwydd o fewn dogfen, neu o fewn brawddeg weithiau e.e. Term Cymru : > Strategaeth Plant/Strategaeth Dai. > > > > Carolyn > > > ------------------------------ > > *Oddi wrth/From:* Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran *Eurwyn > Pierce Jones > *Anfonwyd/Sent:* 12 Ionawr 2011 18:05 > *At/To:* [log in to unmask] > *Pwnc/Subject:* Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd? > > > > Er bod ‘pen-blwydd’ yn *diffinio cyd-destun* yr ‘anrheg’, dydy > ‘pen-blwydd’ *ddim yn goleddfu’r enw* ‘anrheg’ yn ansoddeiriol; ac felly > ni ddylid treiglo’n feddal - fel y bydd angen yn gyffredin yn achos > ansoddair a fo’n dilyn enw benywaidd. Dyma gam-gymeriad sydd i’w ganfod yn > gyson, ac mae enghreifftiau lu ohonynt i’w gweld yn amlwg o amgylch y lle. > Un arall a welais i’r bore yma oedd ‘Swyddfa Yrfaoedd’ yn hytrach na’r teitl > cywir: Swyddfa Gyrfaoedd (am yr un rheswm ag uchod). > > > > Eurwyn > > > ------------------------------ > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Vaughan-Thomas, > Paul > *Sent:* 12 January 2011 12:35 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd? > > > > All rhywun fwrw goleuni ar hyn plîs? Beth yw’r cyfieithiad cywir am > ‘birthday present’? Rwy am roi ‘anrheg ben-blwydd’ - mae anrheg yn fenywaidd > wrth gwrs ac mae swyddogaeth ansoddeiriol i ‘pen-blwydd’ fan hyn. Mae hefyd > yn dilyn yr un patrwm ag ‘anrheg briodas’, ‘teisen briodas’ ac ati. Mae > amheuaeth oherwydd ei fod yn swnio’n od treiglo’r gair pen-blwydd ond a oes > unrhyw sail dros beidio â’i threiglo? > > > > Rwy’n aros yn ddisgwylgar am unrhyw ymateb > > Diolch > > Paul > > > > *Paul Vaughan Thomas* > > *Cyfieithydd **Translator* > > *Canolfan Gymraeg San Helen **St Helen’s Welsh Centre* > > *(01792) 462067*** > > > > > ****************************************************************** > This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended > solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. > If you have received this e-mail in error, please notify the administrator > on the following address: > [log in to unmask] > > All communications sent to or from the Council may be subject to recording > and/or monitoring in accordance with relevant legislation > > Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol > ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os > ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r > gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: > [log in to unmask] > > Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi > a/neu fonitro yn unol Ă’r ddeddfwriaeth berthnasol > ******************************************************************* >