Print

Print


Cytuno Eurwyn - mae'n codi o hyd ac yn creu anghysondeb mawr. Mae'r ffin yn
aml yn niwlog rhwng diffinio a goleddfu ac mae'r anghysondeb yn fy mhoeni i
fwy na'r treiglo neu beidio.  Mae enwau swyddogol
adrannau/swyddfeydd/strategaethau ac ati i gyd yn amrywio - rhai'n treiglo,
rhai ddim ac mae'n edrych yn rhyfedd iawn pan fydd yr anghysondeb yma'n
digwydd o fewn dogfen, neu o fewn brawddeg weithiau e.e. Term Cymru :
Strategaeth Plant/Strategaeth Dai. 

 

Carolyn

 

  _____  

Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Eurwyn Pierce
Jones
Anfonwyd/Sent: 12 Ionawr 2011 18:05
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?

 

Er bod ‘pen-blwydd’ yn diffinio cyd-destun yr ‘anrheg’, dydy ‘pen-blwydd’
ddim yn goleddfu’r enw ‘anrheg’ yn ansoddeiriol; ac felly ni ddylid
treiglo’n feddal - fel y bydd angen yn gyffredin yn achos ansoddair a fo’n
dilyn enw benywaidd.  Dyma gam-gymeriad sydd i’w ganfod yn gyson, ac mae
enghreifftiau lu ohonynt i’w gweld yn amlwg o amgylch y lle.  Un arall a
welais i’r bore yma oedd ‘Swyddfa Yrfaoedd’ yn hytrach na’r teitl cywir:
Swyddfa Gyrfaoedd (am yr un rheswm ag uchod).

 

Eurwyn  

 

  _____  

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Vaughan-Thomas,
Paul
Sent: 12 January 2011 12:35
To: [log in to unmask]
Subject: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?

 

All rhywun fwrw goleuni ar hyn plîs? Beth yw’r cyfieithiad cywir am
‘birthday present’? Rwy am roi ‘anrheg ben-blwydd’ - mae anrheg yn fenywaidd
wrth gwrs ac mae swyddogaeth ansoddeiriol i ‘pen-blwydd’ fan hyn. Mae hefyd
yn dilyn yr un patrwm ag ‘anrheg briodas’, ‘teisen briodas’ ac ati. Mae
amheuaeth oherwydd ei fod yn swnio’n od treiglo’r gair pen-blwydd ond a oes
unrhyw sail dros beidio â’i threiglo?

 

Rwy’n aros yn ddisgwylgar am unrhyw ymateb

Diolch

Paul

 

Paul Vaughan Thomas

Cyfieithydd Translator

Canolfan Gymraeg San Helen St Helen’s Welsh Centre

(01792) 462067

 


******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended
solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed.
If you have received this e-mail in error, please notify the administrator
on the following address:
[log in to unmask]

All communications sent to or from the Council may be subject to recording
and/or monitoring in accordance with relevant legislation

Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol
ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os
ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r
gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]

Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi
a/neu fonitro yn unol Ă’r ddeddfwriaeth berthnasol 
*******************************************************************