(1) Mae’r gofyniad ‘ “anrheg ben-blwydd” neu “anrheg pen-blwydd”?’
ei hun yn anghywir. Y gofyniad cywir fyddai, ‘“anrheg ben-blwydd”
ynteu “anrheg pen-blwydd”
?’.
Mae fel gofyn “gymerwch chi de neu goffi?” Yr unig atebion
cywir i ofyniad o’r fath fyddai “cymeraf” neu “na
chymeraf”! Y ffurf gywir fyddai “Ai te ynteu coffi gymerwch
chi?”
(2) Ni welaf reswm dros beidio ag ystyried “pen-blwydd” yn
ansoddeiriol: mae’n ateb y gofyniad “pa fath o anrheg?”
Felly hefyd “tystysgrif briodas” ayb.
(3) Ni threiglir enw ar ol enw benywaidd os yw’r berthynas yn
enidol e.e. “calon buwch”, “merch capten”. Treiglir os yw’r
ail enw yn gweithredu fel ansoddair e.e. “cymdeithas dai”, “adran
gynllunio” “siop bapurau”. Yn anffodus, yn aml iawn iawn
gellid dadlau bod unrhyw enw’n gallu bod yn ansoddeiriol ac ni wn am
reol ddi-ffael a all dweud pa un ai perthynas enidol sydd dan sylw ynteu enw +
enw ansoddeiriol.
Bruce
Sylwer (gan Ann): anghywir yw Cysill wrth fynnu bod treiglad meddal ar
ol “ynteu”.
From:
Sent: 12 January 2011 19:06
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: Anrheg ben-blwydd neu
anrheg pen-blwydd?
Wn i ddim a fydd hyn
o help (ac falle y caf i fy nghywiro!) ond y ffordd y cefais i fy nysgu yw os
oes modd rhoi gair/cymal rhwng enw benywaidd ac ansoddair, yna nid yw’n
treiglo
e.e. anrheg (ar
gyfer) pen blwydd
tystysgrif (ar
gyfer) priodas
ffurflen (i roi)
caniatād
Rhian
From:
Sent: 12 January 2011 18:05
To:
[log in to unmask]
Subject: Anrheg ben-blwydd neu
anrheg pen-blwydd?
Er bod
‘pen-blwydd’ yn diffinio
cyd-destun yr ‘anrheg’, dydy
‘pen-blwydd’ ddim yn
goleddfu’r enw ‘anrheg’ yn ansoddeiriol; ac
felly ni ddylid treiglo’n feddal - fel y bydd angen yn gyffredin yn achos
ansoddair a fo’n dilyn enw benywaidd. Dyma gam-gymeriad sydd
i’w ganfod yn gyson, ac mae enghreifftiau lu ohonynt i’w gweld yn
amlwg o amgylch y lle. Un arall a welais i’r bore yma oedd
‘Swyddfa Yrfaoedd’ yn hytrach na’r teitl cywir: Swyddfa
Gyrfaoedd (am yr un rheswm ag uchod).
Eurwyn
From:
Sent: 12 January 2011 12:35
To:
[log in to unmask]
Subject: Anrheg ben-blwydd neu
anrheg pen-blwydd?
All rhywun fwrw goleuni
ar hyn plīs? Beth yw’r cyfieithiad cywir am ‘birthday
present’? Rwy am roi ‘anrheg ben-blwydd’ - mae anrheg yn
fenywaidd wrth gwrs ac mae swyddogaeth ansoddeiriol i ‘pen-blwydd’
fan hyn. Mae hefyd yn dilyn yr un patrwm ag ‘anrheg briodas’,
‘teisen briodas’ ac ati. Mae amheuaeth oherwydd ei fod yn
swnio’n od treiglo’r gair pen-blwydd ond a oes unrhyw sail dros
beidio ā’i threiglo?
Rwy’n aros yn
ddisgwylgar am unrhyw ymateb
Diolch
Paul
Paul Vaughan Thomas
Cyfieithydd Translator
Canolfan Gymraeg San Helen St
Helen’s Welsh Centre
(01792)
462067
******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended
solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If
you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the
following address:
[log in to unmask]
All communications sent to or from the Council may be subject to recording
and/or monitoring in accordance with relevant legislation
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac
at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych
wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y
cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]
Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi a/neu
fonitro yn unol Ć’r ddeddfwriaeth berthnasol
*******************************************************************
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 10.0.1191 / Virus Database: 1435/3375 - Release Date: 01/12/11