(1) Mae’r gofyniad ‘ “anrheg ben-blwydd” neu “anrheg pen-blwydd”?’ ei hun yn anghywir. Y gofyniad cywir fyddai, ‘“anrheg ben-blwydd” ynteu “anrheg pen-blwydd” ?’. Mae fel gofyn “gymerwch chi de neu goffi?” Yr unig atebion cywir i ofyniad o’r fath fyddai “cymeraf” neu “na chymeraf”! Y ffurf gywir fyddai “Ai te ynteu coffi gymerwch chi?” (2) Ni welaf reswm dros beidio ag ystyried “pen-blwydd” yn ansoddeiriol: mae’n ateb y gofyniad “pa fath o anrheg?” Felly hefyd “tystysgrif briodas” ayb. (3) Ni threiglir enw ar ol enw benywaidd os yw’r berthynas yn enidol e.e. “calon buwch”, “merch capten”. Treiglir os yw’r ail enw yn gweithredu fel ansoddair e.e. “cymdeithas dai”, “adran gynllunio” “siop bapurau”. Yn anffodus, yn aml iawn iawn gellid dadlau bod unrhyw enw’n gallu bod yn ansoddeiriol ac ni wn am reol ddi-ffael a all dweud pa un ai perthynas enidol sydd dan sylw ynteu enw + enw ansoddeiriol. Bruce Sylwer (gan Ann): anghywir yw Cysill wrth fynnu bod treiglad meddal ar ol “ynteu”. _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws Sent: 12 January 2011 19:06 To: [log in to unmask] Subject: Re: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd? Wn i ddim a fydd hyn o help (ac falle y caf i fy nghywiro!) ond y ffordd y cefais i fy nysgu yw os oes modd rhoi gair/cymal rhwng enw benywaidd ac ansoddair, yna nid yw’n treiglo e.e. anrheg (ar gyfer) pen blwydd tystysgrif (ar gyfer) priodas ffurflen (i roi) caniatâd Rhian From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eurwyn Pierce Jones Sent: 12 January 2011 18:05 To: [log in to unmask] Subject: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd? Er bod ‘pen-blwydd’ yn diffinio cyd-destun yr ‘anrheg’, dydy ‘pen-blwydd’ ddim yn goleddfu’r enw ‘anrheg’ yn ansoddeiriol; ac felly ni ddylid treiglo’n feddal - fel y bydd angen yn gyffredin yn achos ansoddair a fo’n dilyn enw benywaidd. Dyma gam-gymeriad sydd i’w ganfod yn gyson, ac mae enghreifftiau lu ohonynt i’w gweld yn amlwg o amgylch y lle. Un arall a welais i’r bore yma oedd ‘Swyddfa Yrfaoedd’ yn hytrach na’r teitl cywir: Swyddfa Gyrfaoedd (am yr un rheswm ag uchod). Eurwyn _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Vaughan-Thomas, Paul Sent: 12 January 2011 12:35 To: [log in to unmask] Subject: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd? All rhywun fwrw goleuni ar hyn plîs? Beth yw’r cyfieithiad cywir am ‘birthday present’? Rwy am roi ‘anrheg ben-blwydd’ - mae anrheg yn fenywaidd wrth gwrs ac mae swyddogaeth ansoddeiriol i ‘pen-blwydd’ fan hyn. Mae hefyd yn dilyn yr un patrwm ag ‘anrheg briodas’, ‘teisen briodas’ ac ati. Mae amheuaeth oherwydd ei fod yn swnio’n od treiglo’r gair pen-blwydd ond a oes unrhyw sail dros beidio â’i threiglo? Rwy’n aros yn ddisgwylgar am unrhyw ymateb Diolch Paul Paul Vaughan Thomas Cyfieithydd Translator Canolfan Gymraeg San Helen St Helen’s Welsh Centre (01792) 462067 ****************************************************************** This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask] All communications sent to or from the Council may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi a/neu fonitro yn unol Ă’r ddeddfwriaeth berthnasol ******************************************************************* _____ No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 10.0.1191 / Virus Database: 1435/3375 - Release Date: 01/12/11