Diolch yn fawr am yr eglurhad Berwyn, ond wnewch chi egluro pam eich bod yn cynnwys y cysylltnod yn bras-ddarllen a llithr-ddarllen os gwelwch yn dda - mi fyddwn i wedi eu sillafu heb y cysylltnod ... On Thu, 13 Jan 2011 13:11:00 +0000 , Berwyn Jones <[log in to unmask]> wrote: >Gan mai fi fu'n gyfrifol am gyfieithu dogfennau fersiwn 1 a 2 o'r Cwricwlwm >Cenedlaethol, efallai y dylwn i ddweud mai ar sail cyngor rhai o Arolygwyr >Ei Mawrhydi - T Emrys Parry ac Illtyd Lewis, yn fwy na neb - y penderfynwyd >ar y termau a ddefnyddiwyd. > >Mae gen i gopi yn rhywle, rwy'n credu, o nodyn a grynhoai ddyrnaid o'r >termau Cymraeg y dylid eu harddel wrth gyfieithu'r Cwricwlwm Cenedlaethol. >Awdur y nodyn oedd gwas sifil yn Adran Addysg y Swyddfa Gymreig, a chan fod >'copi i T Emrys Parry' arno, rwy'n cymryd mai ffrwyth trafodaeth rhwng y >ddau ohonyn nhw oedd y nodyn hwnnw. Yn sicr, fe ddeddfwyd ynddo mai 'Cyfnod >Allweddol' fyddai 'Key Stage' (yn hytrach na 'Cam Allweddol', mae'n debyg). > >Câi amryw o'r termau fel cipddarllen a llithr-ddarllen eu defnyddio cyn >hynny yn adroddiadau'r Arolygwyr, wrth gwrs, a byddwn i o dro i dro yn troi >at yr 'awduron' i ofyn eu barn am dermau o'r fath. Mae hen fersiwn deipiedig >o'r Eirfa sy gen i ar wefan Cymdithas Cyfieithwyr Cymru yn dangos mai >'bras-ddarllen' oedd fy nghynnig cyntaf am 'to scan', ond 'mod i wedi >ysgrifennu 'llithr-ddarllen' ar ddiwedd y cofnod hwnnw ar o^l trafod gydag >Illtyd Lewis, os cofia i'n iawn. > >Berwyn > >Berwyn > > > > >2011/1/12 David Bullock <[log in to unmask]> > >> Cwestiwn sy gen i yn hytrach na gwrthwynebiad... >> >> Mae'r ffynhonnell y cyfeiriodd Meleri ati - sef y Cwricwlwm Cenedlaethol - >> yn un gymharol awdurdodol. >> >> Mae dogfennau'r cwricwlwm wedi'u datblygu dros nifer o flynyddoedd gan bobl >> sydd wrthi'n gweithio'n gyson mewn ysgolion a byd addysg. Os wy'n cofio'n >> iawn, Yr Athro Gwyn Thomas gadeiriodd y pwyllgor gwreiddiol, ac mae statws >> dogfennau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (yn y Gymraeg fel pwnc, o leiaf) yn >> weddol gadarn. Ac maen nhw'n ddogfennau sy'n cylchredeg yn eang ymhlith >> cynulleidfa Gymraeg eitha cryf, sef athrawon Cymraeg. >> >> A'r cwestiwn felly yw hyn: oes yna reswm digon da i wrthod cynsail fel hyn? >> >> >> -----Neges Wreiddiol/Original Message----- >> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Gwenda >> Lloyd Wallace >> Sent: 12 Ionawr 2011 16:22 >> To: [log in to unmask] >> Subject: Re: ATB/RE: skim reading a scan reading >> >> >>Yn cytuno'n llwyr a chi Geraint. Ond gan fod cipddarllen (y Cwricwlwm >> Cenedlaethol) a brasddarllen (Geiriadur yr Academi) ill dau yn golygu skim >> reading, a'r awgrym gan Carolyn (diolch!) o brysddarllen am scan reading mor >> debyg i brasddarllen, dw i am ddefnyddio cipddarllen am skim reading (dw i >> bron iawn a drysu yma ... ). I grynhoi, er fy mwyn fy hun yn gymaint a phawb >> arall!: >> > >> >skim reading = cipddarllen; scan reading = brysddarllen; detailed reading >> = darllen manwl >> > >> >Unrhyw wrthwynebiad? >> >> >> >>Gwenda >> >> >> >>Wed, 12 Jan 2011 15:45:04 -0000 , Geraint Lovgreen < >> [log in to unmask]> wrote: >> >>>hm - i mi mae cipddarllen (un gair, siawns) yn olreit ond dwi ddim yn >> hoffi >> >>>'llithrddarllen' nac yn meddwl ei fod yn debyg o ennill ei blwyf. Mae'n >> >>>anodd ei ddweud, yn un peth! >> >>> >> >>>Mae brasddarllen yn air llawer gwell. >> >>> >> >>>Mae darllen manwl yn iawn. >> >>> >> >>>Geraint >> >>> >> >>>----- Original Message ----- >> >>>From: "Meleri H. Hughes" <[log in to unmask]> >> >>>To: <[log in to unmask]> >> >>>Sent: Wednesday, January 12, 2011 3:21 PM >> >>>Subject: ATB/RE: skim reading a scan reading >> >>> >> >>> >> >>>> Dyma'r termau a ddefnyddir yn y Cwricwlwm Cenedlaethol i ysgolion: >> >>>> Skim - cip ddarllen >> >>>> Scan - llithr ddarllen >> >>>> Detailed reading - darllen yn fanwl >> >>>> >> >>>> Meleri >> >>>> >> >>>> >> >>>> >> >>>> -----Neges Wreiddiol/Original Message----- >> >>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and >> vocabulary >> >>>> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of >> Gwenda >> >>>> Lloyd Wallace >> >>>> Sent: 12 January 2011 15:15 >> >>>> To: [log in to unmask] >> >>>> Subject: skim reading a scan reading >> >>>> >> >>>>>Dw i'n cyfieithu disgrifiadau ar ffyrdd gwahanol o ddarllen, sef 'skim >> >>>>>reading', 'scan reading' a 'detailed reading'. Mae Geiriadur yr >> Academi yn >> >>>>>rhoi 'brasddarllen' am skim reading, a 'darllen manwl' fyddwn i'n ei >> >>>>>ddefnyddio am detailed reading. A fyddai 'sganddarllen' yn iawn am >> 'scan >> >>>>>reading' neu a ddylwn i ddefnyddio 'bwrw golwg'? >> >>>>> >> >>>>>Diolch yn fawr. >> >>>>>Gwenda >> >>>>>-- >> >>>>> >> >>>>> >> >>>>>Gwenda Lloyd Wallace >> >>>>>Cyfieithydd/Translator >> >>>>>Troed-y-rhiw >> >>>>>Cefn-llwyd >> >>>>>Aberystwyth >> >>>>>Ceredigion >> >>>>>Cymru/Wales >> >>>>>SY23 3HX >> >>>>> >> >>>>>Ffon/Tel: 01970 880817 >> >>>> -- >> >>>> >> >>>> >> >>>> Gwenda Lloyd Wallace >> >>>> Cyfieithydd/Translator >> >>>> Troed-y-rhiw >> >>>> Cefn-llwyd >> >>>> Aberystwyth >> >>>> Ceredigion >> >>>> Cymru/Wales >> >>>> SY23 3HX >> >>>> >> >>>> Ffon/Tel: 01970 880817 >> >>>> >> >>>> >> >>>> ------------------------------------------------------------- >> >>>> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe'i >> bwriedir ar >> >>>> gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth >> freintiedig. Os >> >>>> yw wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad ni ellwch ei gopio, ei >> ddosbarthu >> >>>> na'i ddangos i unrhyw un arall a dylech gysylltu �'r anfonwr ar >> unwaith. >> >>>> Mae unrhyw gynnwys nad yw'n ymwneud � busnes swyddogol y corff sy'n >> anfon >> >>>> yr e-bost yn bersonol i'r awdur. >> >>>> ------------------------------------------------------------- >> >>>> This email and any attachments are confidential and intended for the >> named >> >>>> recipient only. The content may contain privileged information. If it >> has >> >>>> reached you by mistake, you should not copy, distribute or show the >> >>>> content to anyone but should contact the sender at once. >> >>>> Any content that is not pertinent to the official business of the >> >>>> organisation is personal to the author. >> >>>> ------------------------------------------------------------- >> >>>> Arbedwch bapur, ynni ac arian - Peidiwch argraffu'r neges yma oni bai >> ei >> >>>> bod yn hollol angenrheidiol. >> >>>> Save paper, energy and money - Do not print this message unless it is >> >>>> absolutely necessary. >> >>>> >> >>>> >> >> >> >> >> >> -- >> >> >> Gwenda Lloyd Wallace >> Cyfieithydd/Translator >> Troed-y-rhiw >> Cefn-llwyd >> Aberystwyth >> Ceredigion >> Cymru/Wales >> SY23 3HX >> >> Ffon/Tel: 01970 880817 >> -- Gwenda Lloyd Wallace Cyfieithydd/Translator Troed-y-rhiw Cefn-llwyd Aberystwyth Ceredigion Cymru/Wales SY23 3HX Ffon/Tel: 01970 880817