Mae Bruce am atgoffa pobl bod modd mynd at le (up to, as far as), neu i le (into). Ann _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 25 January 2011 13:23 To: [log in to unmask] Subject: Re: mynediad i/at? Dwi'n meddwl mai beth sy'n dod ar ol "i" ac "at" sy'n bwysig nid y gair sydd o'i flaen - felly (fel y cawsom i gyd ein dysgu yn yr ysgol!) - mynd at y deintydd, mynd i'r ysgol. felly mynediad i le, ond mynediad at rywun neu rywbeth. Mynediad at wybodaeth felly. Dwi'n cymryd mai cyfieithu "access to information" wyt ti - weithiau mae "hawl i weld gwybodaeth" yn well cyfieithiad. Geraint ----- Original Message ----- From: Rhian <mailto:[log in to unmask]> Huws To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, January 25, 2011 1:13 PM Subject: mynediad i/at? Helo bawb Dw i wastad wedi meddwl mai 'mynediad i' sy'n gywir (dyna sydd yn G.yr Academi), ond dwi'n aml yn gweld 'mynediad at wybodaeth' ac ati y dyddiau hyn. Ydi'r un rheol ag 'anfon i rywle' ac 'anfon at rywun' yn berthnasol yma? Diolch ymlaen llaw. Rhian _____ No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 10.0.1191 / Virus Database: 1435/3401 - Release Date: 01/24/11