Bore da bawb Niwed i'r amgylchedd yw'r cyd-destun. Sonnir am ddefnyddio ynni rhad i wresogi cartrefi: But at what cost? And for how long? Dwi bob amser yn teimlo bod angen 'faint' bob tro yng nghyd-destun 'cost' - 'Ond faint fydd y gost?' - ond nid cost ariannol sydd dan sylw yn unig yma. Fyddai rhywbeth fel 'Ond beth am y gost?' yn gwneud y tro? Gan ddiolch y mlaen llaw Rhian