<A byddai
ychwanegu cofau holl gyfieithwyr y wlad yn gryn gaffaeliad
Byddai’n dda gwneud hynny *o gael* staff llawn amser wrthi’n
gwirio ansawdd a safoni termau! Byddaf innau’n dal i gaboli fy
nghof cyfieithu yng ngoleuni profiad.
Hefyd byddai’n rhaid *peidio* a newid cyfeiriad unrhyw gof.
Ann
From:
Sent: 22 December 2010 10:50
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: Erthygl ar gyfieithu
peirianyddol
O fewn ei gyfyngiadau anochel, gall
cyfieithu peiriant fod yn offeryn defnyddiol. Ar lefel brawddegau unigol - a
hynny drwy ddamwain a hap yn aml - gall y broses roi cynnig defnyddiol - ond
cynnig a all fod yn eithaf peryglus hefyd. Nid yw Google Translate yn cynnig
rhyw hud a lledrith fydd yn datrys ein problemau cyfathrebu i gyd: caf deimlad
pendant fod rhywrai sydd heb ddeall hynny.
Bydd fe fydd yn rhoi syniad go lew i rai
sy'n deall digon o gefndir y ddogfen a'i chyd-destun. Ond. fel ag y mae ar hyn
o bryd, ni fuaswn i'n fodlon dibynnu ar y broses. Cof gennyf gyfaill o'r
Dwyrain Canol a redodd wynebddalen Al-Jazeera drwy feddalwedd gyfieithu
Arabeg-Saesneg, a chael hanes dau fyfyriwr oedd yn creu helbul yn Affganistan!
(Meddyliwch amdano ...) Pe bawn i'n mynd at gyfieithydd masnachol am drosiad o
ddogfen mewn iaith nad oeddwn yn ei medru, a chlywed ei b/fod wedi dibynnu ar
Google Translate, byddwn i'n ystyried hyn yn dor-contract ac yn troi at
gyfieithydd dibynadwy.
Wedi dweud hynny, mae'r syniad o gof
cyfieithu i bawb yn syniad eithaf apelgar. Mewn gwirionedd, mae arnom ni angen
rhyw fath o Garreg Rosetta electronig. Un cam hanfodol fyddai bwydo holl
ddeddfwriaeth y Cynulliad i mewn, gyda Chylchlythyrau, Canllawiau,
Cyfarwyddiadau, Codau, a dogfennau cyffelyb i ddilyn. A byddai ychwanegu cofau
holl gyfieithwyr y wlad yn gryn gaffaeliad.
Yn iach,
Tim
Cyfieithydd Translator
From:
Sent: 22 December 2010 10:25
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: Erthygl ar gyfieithu
peirianyddol
Mae Google Translate yn cynnig y canlynol ( sy'n eithaf agos ):
"Amen and amen. In other words, engineers have managed to mechanization botched translation."
Rwy wedi bod yn eithaf negyddol tuag at y syniad yn y gorffennol ond
mae yn gwella ac mae cynnig presennol Google yn aml yn eithaf da gyda geiriau
ac ymadroddion byr ( ac mae'n rhoi'r acenion mewn ). Dyw e ddim yn cyfieithu un
gair ar y tro fel roedd o'r blaen yn mynd am ddarnau hirach. Mewn ffordd mae'n
rhyw fath o gof cyfieithu i bawb. Byddai'n dda iawn gweld rhai o'r rhestrau
termau yn cael eu bwydo mewn.
Rwy wedi arbrofi ychydig gyda chyfieithu tudalennau newyddion ar y we
mewn ieithoedd gwahanol ac fel arfer mae'n ddigon da i ddeall beth sy'n
digwydd. Does dim rhai i gyfieithiad bod yn berffaith i fod yn ddefnyddiol mewn
llawer o achosion. I rywun sy'n dysgu iaith er enghraifft gallai fod o gymorth
ac yn llawer llai diflas na throi at y geiriadur cant o weithiau er mwyn
darllen darn bach.
Does dim angen peiriant i greu cyfieithiad carbwl :)
2010/12/22 Saunders, Tim <[log in to unmask]>
Amen ac amen. Mewn
geiriau eraill, mae peirianwyr wedi llwyddo i fecaneiddio cyfieithu carbwl.
Yn iach,
Tim
Cyfieithydd Translator
From:
Sent: 21 December 2010 16:25
To: [log in to unmask]
Subject: Erthygl ar gyfieithu
peirianyddol
Roedd
erthygl hir a diddorol yn yr Observer ddydd Sul am gyfieithu peirianyddol.
Mae ar
gael ar lein ar
http://www.guardian.co.uk/technology/2010/dec/19/google-translate-computers-languages?INTCMP=SRCH
Claire
Mae
Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y
rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 53 Heol yr
Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FB.
Pennawd
Cyf is a limited company registered in
This transmission is intended for the named addressee(s)
only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED
and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or
authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or
disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error
please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject
to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a
gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG'
a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os
nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim
ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y
neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae
modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth
berthnasol.
I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
This transmission is intended for the named addressee(s)
only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED
and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or
authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or
disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error
please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject
to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall
gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a
dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad
oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei
chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y
neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae
modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth
berthnasol.
I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 10.0.1170 / Virus Database: 1435/3330 - Release Date: 12/21/10