Yn ôl y cyfarwyddiadau sy’n cyd-fynd â’r arwyddion, bydd rhai’n cael eu gosod ar wal allanol yr adeilad, felly byddai ‘yma’ ar y llwybr/pafin/maes parcio y tu allan iddo, h.y. yw yn yr awyr agored lle nad yw ysmygu wedi’i wahardd. Bydd eraill yn cael eu gosod ar y drws, ac os cânt eu gosod y tu mewn iddo, byddai ‘yma’ y tu mewn i’r adeilad, lle mae ysmygu wedi’i wahardd beth bynnag.
Claire
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 06 December 2010 15:19
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: doorway
Tybed fyddai 'yma' yn gwneud y tro os mai yn y fan honno y bydd yr arwydd?
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Post
Anfonwyd/Sent: 06 Rhagfyr 2010 15:17
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: doorway
At ei gilydd dwi’n credu ei fod yn golygu y tu allan i’r drws ond o dan gysgod yr adeilad, lle mae’r drws wedi’i osod i mewn ychydig o wyneb allanol y wal, neu yn ffrâm y drws gyda’r drws ar agor.
Claire
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 06 December 2010 15:07
To: [log in to unmask]
Subject: Re: doorway
GyrA: “in the doorway” = yn y drws, ar ben y drws. Ystyr gwreiddiol “drws”, meddai Bruce, oedd “twll” yn hytrach na pheth pren oedd yn cau’r twll, felly mae “yn y drws” yn hollol gywir. Ond mae o’n yn gofyn a fyddai “wrth y drws” yn iawn.
Byddwn i’n gofyn pa beth yn union a olygir wrth “doorway” yn y cyd-destun – gall fod yn rhyw fath o lobi.
Ann
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 06 December 2010 14:49
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: doorway
Fyddai 'yng nhyffiniau'r drws hwn' yn rhy eang?
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Post
Anfonwyd/Sent: 06 Rhagfyr 2010 14:46
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: doorway
Yn benodol, arwyddion ynghylch ysmygu ‘No smoking in this doorway’.
Ydi ‘Dim ysmygu yn y drws hwn’ yn mynd i edrych yn hurt?
Beth arall allaf ei roi? Prin y gallaf roi ‘Dim ysmygu wrth y drws hwn’ – mae’n siŵr bod hawl ysmygu ar y pafin / llwybr y tu allan i’r drws.
Diolch.
Claire
Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 53 Heol yr Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FB.
Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 53 Station Road, Llandaff North, Cardiff, CF14 2FB.
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 10.0.1170 / Virus Database: 426/3300 - Release Date: 12/06/10