Print

Print

Ydi hynny’n glir o’r wefan?  Ydi pawb sy’n troi ati’n debyg o ddeall hynny o’r hyn maen nhw’n ei weld ar y sgrin?

Neu oes ’na lawer ohonyn nhw’n disgwyl cael cyfieithiad gorffenedig o wefan sydd â’r gair ‘translate’ yn ei henw?

Os ydyn nhw’n trafferthu clicio ar ‘About Google Translate’ ar waelod y sgrin, fe welan nhw yn y paragraff cyntaf:

Google Translate is a free translation service that provides instant translations between 57 different languages. It can translate words, sentences and web pages between any combination of our supported languages.”  Mae’r ail baragraff yn esbonio:

When Google Translate generates a translation, it looks for patterns in hundreds of millions of documents to help decide on the best translation for you. By detecting patterns in documents that have already been translated by human translators, Google Translate can make intelligent guesses as to what an appropriate translation should be. This process of seeking patterns in large amounts of text is called "statistical machine translation". Since the translations are generated by machines, not all translation will be perfect. The more human-translated documents that Google Translate can analyse in a specific language, the better the translation quality will be. This is why translation accuracy will sometimes vary across languages.”

’Wela i ddim rhybudd cliriach na hynny ynghylch y modd y dylid defnyddio cyfieithiadau’r wefan.  Beth bynnag, rhaid clicio ar ‘About Google Translate’ i weld y wybodaeth uchod – sawl defnyddiwr fydd yn trafferthu gwneud?

Claire

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Neil Shadrach
Sent: 22 December 2010 11:50
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Erthygl ar gyfieithu peirianyddol

Dim o gwbl. Nid geiriadur i'w gyhoeddi mohono. Deunydd crai yw'r cyfraniadau nid cyfieithiadau caboledig. Mae testunau'r holl gyfrannwyr yn cael eu prosesu yn ystadegol a chanlyniad y broses honno yw'r awgrymiadau. 

2010/12/22 Ann Corkett <[log in to unmask]>

<A byddai ychwanegu cofau holl gyfieithwyr y wlad yn gryn gaffaeliad

Byddai’n dda gwneud hynny *o gael* staff llawn amser wrthi’n gwirio ansawdd a safoni termau!  Byddaf innau’n dal i gaboli fy nghof cyfieithu yng ngoleuni profiad.

Hefyd byddai’n rhaid *peidio* a newid cyfeiriad unrhyw gof.

Ann

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Saunders, Tim
Sent: 22 December 2010 10:50
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Erthygl ar gyfieithu peirianyddol

O fewn ei gyfyngiadau anochel, gall cyfieithu peiriant fod yn offeryn defnyddiol. Ar lefel brawddegau unigol - a hynny drwy ddamwain a hap yn aml - gall y broses roi cynnig defnyddiol - ond cynnig a all fod yn eithaf peryglus hefyd. Nid yw Google Translate yn cynnig rhyw hud a lledrith fydd yn datrys ein problemau cyfathrebu i gyd: caf deimlad pendant fod rhywrai sydd heb ddeall hynny.

Bydd fe fydd yn rhoi syniad go lew i rai sy'n deall digon o gefndir y ddogfen a'i chyd-destun. Ond. fel ag y mae ar hyn o bryd, ni fuaswn i'n fodlon dibynnu ar y broses. Cof gennyf gyfaill o'r Dwyrain Canol a redodd wynebddalen Al-Jazeera drwy feddalwedd gyfieithu Arabeg-Saesneg, a chael hanes dau fyfyriwr oedd yn creu helbul yn Affganistan! (Meddyliwch amdano ...) Pe bawn i'n mynd at gyfieithydd masnachol am drosiad o ddogfen mewn iaith nad oeddwn yn ei medru, a chlywed ei b/fod wedi dibynnu ar Google Translate, byddwn i'n ystyried hyn yn dor-contract ac yn troi at gyfieithydd dibynadwy.

Wedi dweud hynny, mae'r syniad o gof cyfieithu i bawb yn syniad eithaf apelgar. Mewn gwirionedd, mae arnom ni angen rhyw fath o Garreg Rosetta electronig. Un cam hanfodol fyddai bwydo holl ddeddfwriaeth y Cynulliad i mewn, gyda Chylchlythyrau, Canllawiau, Cyfarwyddiadau, Codau, a dogfennau cyffelyb i ddilyn. A byddai ychwanegu cofau holl gyfieithwyr y wlad yn gryn gaffaeliad.

Yn iach,

Tim

Tim Saunders

Cyfieithydd Translator

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough Council

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Neil Shadrach
Sent: 22 December 2010 10:25
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Erthygl ar gyfieithu peirianyddol

Mae Google Translate yn cynnig y canlynol ( sy'n eithaf agos ):

"Amen and amen. In other words, engineers have managed to mechanization botched translation."

Rwy wedi bod yn eithaf negyddol tuag at y syniad yn y gorffennol ond mae yn gwella ac mae cynnig presennol Google yn aml yn eithaf da gyda geiriau ac ymadroddion byr ( ac mae'n rhoi'r acenion mewn ). Dyw e ddim yn cyfieithu un gair ar y tro fel roedd o'r blaen yn mynd am ddarnau hirach. Mewn ffordd mae'n rhyw fath o gof cyfieithu i bawb. Byddai'n dda iawn gweld rhai o'r rhestrau termau yn cael eu bwydo mewn.

Rwy wedi arbrofi ychydig gyda chyfieithu tudalennau newyddion ar y we mewn ieithoedd gwahanol ac fel arfer mae'n ddigon da i ddeall beth sy'n digwydd. Does dim rhai i gyfieithiad bod yn berffaith i fod yn ddefnyddiol mewn llawer o achosion. I rywun sy'n dysgu iaith er enghraifft gallai fod o gymorth ac yn llawer llai diflas na throi at y geiriadur cant o weithiau er mwyn darllen darn bach.

Does dim angen peiriant i greu cyfieithiad carbwl :)

2010/12/22 Saunders, Tim <[log in to unmask]>

Amen ac amen. Mewn geiriau eraill, mae peirianwyr wedi llwyddo i fecaneiddio cyfieithu carbwl.

Yn iach,

Tim

Tim Saunders

Cyfieithydd Translator

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough Council

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards
Sent: 21 December 2010 16:25
To: [log in to unmask]
Subject: Erthygl ar gyfieithu peirianyddol

Roedd erthygl hir a diddorol yn yr Observer ddydd Sul am gyfieithu peirianyddol.

Mae ar gael ar lein ar

http://www.guardian.co.uk/technology/2010/dec/19/google-translate-computers-languages?INTCMP=SRCH

Claire

Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 53 Heol yr Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FB.

Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 53 Station Road, Llandaff North, Cardiff, CF14 2FB.

This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer

Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol. 

I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 10.0.1170 / Virus Database: 1435/3330 - Release Date: 12/21/10