Ond beth am gyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg? O gywiro ‘mechanization’ i ‘mechanize’ a rhoi’r ail frawddeg trwy Google Translate i’r Gymraeg, dyma’r hyn a geir: “Mewn geiriau eraill, peirianwyr wedi llwyddo i mechanize carbwl cyfieithu” Mae ’na broblem yn codi pan fo pobl yn meddwl y gallan nhw arbed arian ar gyfieithu i’r Gymraeg (ac ieithoedd eraill, dwi’n siŵr) trwy ddefnyddio Google Translate – ac wedyn yn cyhoeddi’r “cyfieithiadau” ar arwyddion a thaflenni ac ati. Mae angen rhybudd eglur ac amlwg ar Google Translate am beryglon gwneud y fath beth. Claire From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Neil Shadrach Sent: 22 December 2010 10:25 To: [log in to unmask] Subject: Re: Erthygl ar gyfieithu peirianyddol Mae Google Translate yn cynnig y canlynol ( sy'n eithaf agos ): "Amen and amen. In other words, engineers have managed to mechanization botched translation." Rwy wedi bod yn eithaf negyddol tuag at y syniad yn y gorffennol ond mae yn gwella ac mae cynnig presennol Google yn aml yn eithaf da gyda geiriau ac ymadroddion byr ( ac mae'n rhoi'r acenion mewn ). Dyw e ddim yn cyfieithu un gair ar y tro fel roedd o'r blaen yn mynd am ddarnau hirach. Mewn ffordd mae'n rhyw fath o gof cyfieithu i bawb. Byddai'n dda iawn gweld rhai o'r rhestrau termau yn cael eu bwydo mewn. Rwy wedi arbrofi ychydig gyda chyfieithu tudalennau newyddion ar y we mewn ieithoedd gwahanol ac fel arfer mae'n ddigon da i ddeall beth sy'n digwydd. Does dim rhai i gyfieithiad bod yn berffaith i fod yn ddefnyddiol mewn llawer o achosion. I rywun sy'n dysgu iaith er enghraifft gallai fod o gymorth ac yn llawer llai diflas na throi at y geiriadur cant o weithiau er mwyn darllen darn bach. Does dim angen peiriant i greu cyfieithiad carbwl :) 2010/12/22 Saunders, Tim <[log in to unmask]> Amen ac amen. Mewn geiriau eraill, mae peirianwyr wedi llwyddo i fecaneiddio cyfieithu carbwl. Yn iach, Tim Tim Saunders Cyfieithydd Translator Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough Council ________________________________ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards Sent: 21 December 2010 16:25 To: [log in to unmask] Subject: Erthygl ar gyfieithu peirianyddol Roedd erthygl hir a diddorol yn yr Observer ddydd Sul am gyfieithu peirianyddol. Mae ar gael ar lein ar http://www.guardian.co.uk/technology/2010/dec/19/google-translate-computers-languages?INTCMP=SRCH Claire Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 53 Heol yr Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FB. Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 53 Station Road, Llandaff North, Cardiff, CF14 2FB. This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer <http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer> Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol. I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad <http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad>