Print

Print


Byddaf hefyd yn holi’r holl werthwyr llyfrau proffesiynol y des i i gysylltiad a nhw wrth drefnu Ffair y Borth.  Os caf ddau gynnig, rhoddaf wybod i chithau hefyd (ond peidiwch a dal eich gwynt!).

 

Ann

 

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 29 November 2010 14:58
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Ffair Llyfrau Caerdydd

 

Dwi wedi bod yn chwilio am “Linguistic Geography of Wales” ers tro byd, ond heb feddwl hysbysebu fy nghais ar y Cylch termau! Ond rwan bod y cynsail wedi'i osod... !

 

Geraint

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Ann Corkett

To: [log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Monday, November 29, 2010 2:36 PM

Subject: Ffair Llyfrau Caerdydd

 

Annwyl Bawb

 

Mae gen i ganiatad Delyth i’ch “sbamio” fel hyn, gan fod gwedd “terminolegol” i’r neges, a gobeithio y byddwch yn falch o gael yr wybodaeth isod.

 

I’r rhai ohonoch a fethodd ddod i Ffair Lyfrau Cymdeithas Bob Owen ym Mhorthaethwy fis Medi, efallai yr hoffech wybod bod y Gymdeithas yn cynnal un arall yng Nghaerdydd y dydd Sadwrn hwn, 4 Rhagfyr.  Bydd Bruce a finnau a^ stondin yno – os bydd y tywydd yn caniatau – a byddai’n hyfryd eich gweld yno.

 

Mae gen i rai copiau wedi’u rhwymo o gyfrolau I a II Geiriadur Prifysgol Cymru, yn ogystal a setiau anghyflawn heb eu rhwymo, a rhannau o gyfrol III.  Rhowch wybod os oes gennych ddiddordeb mewn prynu setiau (fydda i ddim yn llwytho’r car a^ nhw heb wybod bod eu heisiau), neu mewn prynu *neu* werthu copiau i gwblhau setiau (ryw 50c y gyfrol i chi neu i mi?). Rhowch wybod hefyd os ydych chi’n chwilio am ryw eiriadur/rhestr termau/ llyfr gramadeg (Cymraeg neu Saesneg) arbennig.

 

Cynhelir y Ffair yng Nghanolfan y Wallich, Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 7 JF (i’r rhai ohonoch gyda Satnav) o 10 y bore tan 4 y prynhawn.  Bydd y tal mynediad o £1.50 yn cynnwys paned.  Ceir 32 o fyrddau gan gynnwys llyfrau hen a newydd, cardiau elusennol, hen greiriau, recordiau a CDau, a bydd Hywel Gwynfryn yno i agor y ffair ac i arwyddo ei lyfr newydd ar Hugh Griffiths.

 

Ni waeth a allwch fynd yno ai peidio, os oes gennych le i osod poster rhowch wybod a byddaf yn falch iawn o gael anfon un atoch.

 

Gyda llaw, mae gennym gyfaill sy’n chwilio am gopi o “Linguistic Geography of Wales” gan Alan R Thomas.  ‘Does dim ots am gyflwr y llyfr.  Os oes gennych gopi sbar, byddwn i’n falch o glywed gennych.

 

Llawer o ddiolch,

 

Ann

 

Ann Corkett

5 Heol Belmont

BANGOR

Gwynedd

LL57 2HS

 

(01248) 371987

[log in to unmask]

 

 


No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 10.0.1170 / Virus Database: 426/3286 - Release Date: 11/28/10