Print

Print


Mae’n ddrwg geni nad ydw i wedi diolch am yr holl gymorth o’r blaen, ond bu’n rhaid gorffen gwaith arall ar frys cyn troi’n ol at y cofnodion.

 

‘Roedd “parth” ymhlith cynigion Bruce hefyd, ond ‘doedden ni ddim yn deall ar y pryd am beth yn union yr oedd “multi-gym” yn son., felly ‘rwfyf wedi defnyddio awgrym Alwyn, “parth peiriannau ymarfer” gyda diolch,

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Alwyn Evans
Sent: 24 November 2010 18:20
To: [log in to unmask]
Subject: Re: multi-gym area

 

Gareth yn iawn - mae 'area' yn ei gwneud yn glir mai ardal lle y defnyddir y peiriannau ymarfer yw hyn - felly beth am 'Parth peiriannau ymarfer'? neu 'llecyn PA". Dwn i ddim pam ond dydi 'Ardal' ddim yn taro deuddeg rywsut  

Alwyn

 

In a message dated 23/11/2010 15:09:15 GMT Standard Time, [log in to unmask] writes:

Hyd ag y gwn i, nid campfa yw 'multi gym' ond teclyn ymarfer corff y gellir ei ddefnyddio mewn campfa neu gartref. Mae modd defnyddio'r peirant i ymarfer sawl rhan o'r corff, fel mae'r enw 'multi-gym' yn awgrymu.

 

Dyma i chi enghreifftiau o'r math hwn o beirant:

 

http://www.argos.co.uk/static/Browse/ID72/14419314/c_1/1%7Ccategory_root%7CSports+and+leisure%7C14419152/c_2/2%7C14419152%7CHome+gym+equipment%7C14419293/c_3/3%7Ccat_14419293%7CMulti+gyms%7C14419314.htm

 

----- Original Message -----

From: Ann Corkett

Sent: Tuesday, November 23, 2010 11:03 PM

Subject: multi-gym area

 

Mae’n debyg mai’r cwestiwn cyntaf yw beth *yw* “multi-gym.

 

Gwelaf un achos o “campfa amlbwrpas” ac un o ”campfa aml-ddefnydd” ar Google, ond ‘rwy’n amau eu bod naill ai’n rhywbeth arall, neu’n ffrwyth cyfieithu mewn anwybodaeth. Mae dwy achos o “campfa aml-offer” sy’n swnio’n agosach at fy nealltwriaeth innau o beth ydyw – yntau a fyddai “campfa “aml-offeryn” yn well?

 

Ac wedyn, sut fyddai “multi-gym area (mewn adeilad pwll nofio) yn wahanol i multi-gym?

 

A all unrhyw un fy ngoleuo i?

 

Diolch,

 

Ann

 


No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 10.0.1170 / Virus Database: 426/3276 - Release Date: 11/24/10